Yn 85 oed, ar 24 Rhagfyr, 2009, bu farw Meriadeg Herrieu, mab i’r awdur Llydaweg Loeiz Herrieu. Gan Meriadeg y trefnwyd cyhoeddi “Dasson ur Galon” (Atsain Calon), llyfr o gerddi a gyfansoddwyd gan ei dad, a hefyd y dyddiadur y cofnododd ei dad ynddo erchylltra, cyni a gofid y Rhyfel Byd Cyntaf, sef “Kamdro an Ankeu” (Ystryw’r Angau).
Gan Meriadeg ei hun, cyhoeddwyd llyfrau ar yr iaith yn hytrach na llenyddiaeth greadigol - gweithiau cynhwysfawr ac ymarferol, â’r nod o hybu’r iaith yn hytrach na’i dadansoddi fel corff marw.
Addasodd “Le Breton par l’image”, llyfr dysgu elfennol gan Visant Seité, i dafodiaith Gwened, yna ysgrifennodd lyfr ar eirfa ardal Gwened (1965), un a ailgyhoeddwyd yn 1974 fel “Le breton du Morbihan Vannetais”. Gwaith ymarferol arall ganddo oedd “Skrideu Gwénedeg, textes bretons annotés pour étudiants”, a chynhwyswyd y testunau hynny yn ddiweddarach yn ei lyfr mawr (399 o dudalennau) “Le breton Parlé” (1979).
Mae cariad Meriadeg Herrieu at ei dafodiaith a’i awydd iddi barhau, yn gwbl glir oddi wrth ei sylw ar ddechrau “Le breton Parlé”:
"Deellwch mai tafodiaith Gwened, heb rithyn o amheuaeth, yw’r harddaf, y fwynaf a’r ddilysaf o’r tafodieithoedd Llydaweg. Cadwodd ddulliau ymadrodd hynafol a ffurfiau gwreiddiol ein hiaith yn well na’r lleill. ...( )... Ni all neb honni ei fod yn gwir fedru Llydaweg os yw’n anwybyddu GWENEDEG." (tu cefn y tudalen teitl)
Yn 1981, dyma ei “Dictionnaire Français-Breton, Vannetais” yn dod o’r wasg, ac yn 2001 ei “Dictionnaire Breton-Français”.
Bu Meriadeg Herrieu hefyd yn cydweithio o’r cychwyn cyntaf â’r cylchgrawn “An Doéré”.
Dywedir ei fod yn teimlo'n falch iawn pan agorodd Diwan ysgol Lyadweg Skol Loeiz Herrieu yn an Oriant (Lorient)
No comments:
Post a Comment