13/02/2010

Beth fu tynged "Bugaled Breizh"?

Ers chwe blynedd, mae ’na stori sydd yn codi dro ar ôl tro ym mhapurau newyddion Ffrainc, un sydd â’i gwreiddiau yn Llydaw, ac a all eisoes fod yn gyfarwydd i rai ohonoch, sef hanes “Bugaled Breizh”. (“Plant Llydaw”, yw ystyr yr enw, a “bugale” yw ffurf arferol y gair “bugaled” .) Treillong o Loktudi yn neheudir Llydaw oedd “Bugaled Breizh”, ac fe suddodd ar 15 Ionawr, 2004, nid nepell o An Lysardh (Lizard) yng Nghernyw, gan foddi pump o forwyr. Hyd heddiw, nid yw’n glir beth a barodd y llongddrylliad.

Aeth y llong i’r gwaelod o fewn ychydig funudau, efallai am i long arall fwrw yn ei herbyn, llong-danfor o bosibl, neu efallai am fod ei rhwydi wedi cydio mewn gormod o dywod. Wedi chwe blynedd maith o aros, mae teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, perchen y llong a morwyr eraill, yn dal heb gael ateb swyddogol, ond maent yn argyhoeddedig mai wedi iddi daro yn erbyn llong-danfor y bu'r drychineb.

Mae’n hysbys bod Cyfundrefn Cytundeb Gogledd Iwerydd (NATO) yn ymarfer oddi ar arfordir Cernyw adeg y ddamwain, gyda llongau-tanfor y “Dolfjin”, o’r Iseldiroedd, a’r “Turbulent”, o Loegr, yn agos i fan y llongddrylliad, a llongau-tanfor niwclear eraill ychydig ymhellach i ffwrdd. Casgliad y barnwyr a fu’n ychwilio i’r drychineb oedd ei bod yn debyg i long-danfor arall ddod i ysbïo ar yr ymarferion milwrol a bwrw i mewn i’r dreillong.

Byddai’r ddamcaniaeth honno’n egluro pam na chafodd y morwyr amser i adael eu llong ar rafftiau achub, a hefyd pam y bu i gorff y llong gael ergyd mor galed. Cafwyd hefyd fod ôl titaniwm ar y “Bugaled Breizh”, deunydd a ddefnyddir weithiau i beintio llongau-tanfor.

Mae ymchwilwyr eraill wedi awgrymu mai damwain oherwydd gormodedd o dywod yn y rhwydi oedd hon, ond bwriwyd amheuaeth ar hynny bellach.

Erbyn hyn, rhaid aros am ddyfarniad, erbyn diwedd mis Mawrth, a fydd yn dweud a allasai llong-danfor fod ar fan y llongddrylliad neu beidio. Os dywedir na allasai fod, bydd yn derfyn ar yr ymchwilad ac mae’n debyg na fydd ymchwil bellach i’r mater yn Ffrainc.

Yn Truro, Cernyw, mae ymchwiliad arall yn cael ei gynnal eleni, ac efallai y bydd i hwnnw roi atebion i’r galarwyr.

Mae teimladau cryf yn ne-orllewin Llydaw fod yr awdurdodau wedi bod yn llusgo eu traed ac yn awyddus i gelu’r gwirionedd. Codwyd yno gannoedd o bosteri mewn gwahanol siopau yn datgan “Bugaled Breizh – Rydym yn haeddu gwybod y gwir!” Mae 40 o feiri’r ardal honno hefyd wedi anfon llythyr ar y cyd at yr Arlywydd Sarkozy i ofyn iddo roi terfyn ar y cuddio y tu ôl i ddirgelwch “diogelwch cenedlaethol”. Cyflwynwyd deiseb ac arni 7,000 o lofnodion hefyd.

Tybed a gaiff y Llydawyr wybod bod a ddigwyddodd i “blant Llydaw” eleni, ynteu a fydd y rhai mewn grym yn llwyddo unwaith eto i osgoi ateb eu cwestiynau?

(Ceir erthygl ar y pwnc hwn yn rhifyn 340 o’r cylchgrawn newyddion misol Bremañ / y llun ;
© Anthonydela - Creative Commons)

No comments: