Dyfarwnyd gwobr y cwmni teledu France 3 am Siaradwr Llydaweg y Flwyddyn i Lena Louarn. Dyma gydnabod y gwaith aruthrol a gyflawnwyd ganddi fel llywydd Ofis ar Brezhoneg (Swyddfa'r Llydaweg) ac fel rheolwraig cyrsiau dysgu Llydaweg Skol an Emsav, sef gwersi i oedolion yn Roazhon (Rennes).
Lena sydd i'w gweld yn y llun hwn.
Aeth y wobr am y cyfieithiad llenyddol gorau i Mark Kerrain, am ei drosiad o lyfr Galiseg gan Manuel Rivas. (Gweler ymhellach http://br.wikipedia.org/wiki/Manuel_Rivas )Dom Duff, cantor Llydaweg nad aeth odid neb i wrando arno pan berfformiodd yn Theatr y Werin, Aberystwyth, llynedd, a wobrwywyd am y cryno-ddisg gorau, sef 'E-unan'.
Y gyfres Ken Tuch sydd i'w gweld ar deledu'r We, ar Brezhoweb, gan Goulwena An Henaff a Étienne Strubel, a gafodd ei chydnabod fel y cynhyrchiad clywedol gorau.
http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=17172
No comments:
Post a Comment