Heddiw, dyma bobl ifainc Le Mouvement des Jeunes Bretons / Ar Vretoned Yaouank, sef Llydawiaid Ifainc Plaid Llydaw (Strollad Breizh / Parti Breton), yn rhoi’r ddadl ynghylch hunaniaeth Ffrainc ar werth... ar safle ebay.fr.
Dyma ffordd o gael cyhoeddusrwydd wrth gondemnio ymdrechion diflino Ffrainc i osod hunaniaeth Ffrengig ar y Llydawiaid. Mynnir bod hyn yn gwbl groes i ddisgwyliadau dinasyddion yr unfed ganrif ar hugain ac nad yw ychwaith yn rhoi lle teilwng i werthfawrogi cyfraniad mewnfudwyr a’u disgynyddion.
Myn y mudiad fod hunaniaeth dorfol y Llydawiaid wedi ei meithrin gan werthoedd a chan agweddau ar ddiwylliant a hanes sydd, i raddau helaeth, yn wahanol i rai Ffrainc. Un wedd ar y gwahaniaeth hwnnw heddiw yw awydd Llydaw i fod yn rhan o Ewrop ac yn rhan o’r byd, a hefyd yn wlad sydd yn wir amlddiwylliannol.
Yn ôl Le Mouvement des Jeunes Bretons / Ar Vretoned Yaouank, peth unigolyddol yw’r modd y crëir hunaniaeth heddiw, ac felly nid drwy fyw yn Llydaw neu ymdeimlo’n Llydawr yn unig y mae bod yn Llydawr bellach. Peth afiach, meddent, yw bod gwladwriaeth yn cymryd camau i osod hunaniaeth oddi uchod, fel sydd wedi digwydd ac sydd yn digwydd o hyd, yn Ffrainc.
Ymddengys fod yr hysbyseb wedi cael ei dileu erbyn hyn!
Llefarydd y mudiad yw,
Kevin Jézéquel:
06 82 96 74 01
Kilian Gastinger, yw’r cyswllt i siaradwyr Llydaweg:
06 30 20 62 70
http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=17079
No comments:
Post a Comment