11/01/2010

Ysgol Lydaweg am gyfnewid ag ysgol Gymraeg

Ysgol Diwan Plijidi

6 straed Sant Per
22720 PLIJIDI
Ffôn: 02 96 21 48 73


Mae tîm addysgol ysgol uwchradd iau Diwan PLIJIDI (Plésidy)

• yn Aodoù an Arvor (Côtes-d’Armor), 15 cilometr eus Gwengamp (Guingamp), canolbarth Llydaw
• 175 disgybl, 11-15 oed sy’n aros yno am 2 noson yr wythnos
• yn dysgu drwy drwytho, a thrwy fyw yn Llydaweg
• 20 o athrawon, 5 trefnydd

yn awyddus i gyfnewid ag ysgol Gymraeg i ddisgyblion y 5ed (60 ohonynt 12-13 oed), yn seiliedig ar :

• cyfathrebu ar bapur, drwy e-bost, drwy wegam ....

• teithio (derbyn disgyblion gan deuluoedd yn y ddwy wlad)

• diwylliant y wlad, llenyddiaeth

• chwaraeon

• y celfyddydau (drama, canu, cerddoriaeth neu’r celfau cain)

Meysydd digon eang, fel y dylai fod modd cael ysgol Gymraeg sy’n barod i gyfnewid â ni!

Beth am gael golwg ar wefan yr ysgol:

http://www.skolajtreger.org

neu ar gylchgrawn y disgyblion:

www,webzinemaker.com/flaperien/

Os oes gennych ddiddordeb, ysgrifennwch ataf yn y cyfeiriad hwn :

drozec@wanadoo.fr

8 comments:

Anonymous said...

dwi'n meddwl fod hwn yn syniad gwych ond dwi'n credu fod angen bod yn pro-actif i wneud iddo weithio.

Ydy Cymdeithas Cymru-Llydaw'n cysylltu gydag UCAC neu efallai'n well, ysgolion penodol ac awgrymu'r gyfeillio wrthynt?

Dwi'n amau na fydd llawer o bobl ac athrawon yn gwybod am y syniad fel arall.

teod-karv said...

Gallaf anfon y manylion at UCAC ond efallai y byddai'n dda pe bai rhywun sydd yn UCAC yn cysylltu â'r undeb hefyd. Y gwaethaf yw bod pawb mor brysur a phethau fel hyn yn dod â mwy o waith.

Anonymous said...

A gawsoch hyd i rhywun ?

teod-karv said...
This comment has been removed by the author.
teod-karv said...

Ni chlywais ragor. Nid yw'n hawdd cael pobl i gydweithio gyda phethau fel hyn, ond hyd yn oed pe bai cyswllt wedi ei wneud, efallai na fyddwn i wedi cael gwybod. Dim ond negesydd ydw i, mewn gwirionedd. Daw ceisiadau fel hyn o du Llydaw o bryd i'w gilydd ond ni fydd y Cymry byth yn gofyn cael cyswllt rhwng ysgolion - efallai, yn y bôn, mai'r awydd i ddysgu Saesneg sydd yn gyrru pethau fel hyn neu'r awydd i wneud hynny mewn ffordd a all fod yn ffafriol i'r Llydaweg hefyd.

Anonymous said...

Yr oedd ein hysgol yn ymweld a Llydaw'n aml flynyddoedd yn ol. Yn anffodus, ni fu cyfnewid am gryn 20 mlynedd. Pam na ysgrifennwch at ysgolion uwchradd Cymraeg eu hiaith o fewn trefi sydd wedi efeillio gyda trefi'n Llydaw ? .

e.e. Ysgol Dyffryn Teifi (Llydawes yw'r athrawes Ffrangeg) , Ysgol Penweddig yn Aberystwyth ,

Anonymous said...

y broblem ydi fod ysgolion Cymru'n cymeryd llai a llai o ddiddordeb mewn Ffrangeg, heb son am Lydaweg.
Ni fu taith o'n ysgol ni i Ffrainc am ddeunaw mlynedd - diffyg diddordeb ar ran y disgyblion.

teod-karv said...

Gormod o bynciau'n cystadlu am sylw'r disgyblion, gormod o adloniant electroneg o bob math, a rhyw ddealltwriaeth isymwybodol, efallai, y bydd pawb yn ymdrechu i siarad Saesneg beth bynnag!