
Wedi mynd o nerth i nerth, daeth yr ŵyl hon i ben yn sydyn rai blynyddoedd yn ôl oherwydd problemau gweinyddol. Y tro hwn, bydd pedwar llwyfan, gyda Gilles Servat, Nolwenn Korbell, ar Vreudeur Guichen, Les Ramoneurs de Menhirs, Startijenn, Ampouailh, Gimol Dru Band, Bernez Tangi, Termajik, a llawer o gantorion eraill yn perfformio. Bydd hefyd stondinau diwylliannol, crefftau’n cael eu harddganos, dramâu a ffilmiau byrion — a chyfle i bawb i ddefnyddio’r Llydaweg!
No comments:
Post a Comment