19/02/2010

Tavarn Ty Elise wedi ei dinistrio gan dân

Cafodd un o’r symbolau amlycaf o’r cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw, sef tafarn Ty Elise yn Plouie (Plouyé), nid nepell o An Uhelgoad (Huelgoat) ei ddinistrio mewn tân ar noson 18 Chwefror.

Mae Ty Elise yn fangre gyfarwydd iawn i lawer o bobl sydd yn frwd dros y pethau Llydewig a chofiaf ei gweld flynyddoedd yn ôl mewn drama a oedd yn rhan o raglen i blant ar S4C. Mae’r perchen, Byn Walters, sydd yn dod o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ac yn rhedeg y dafarn ers blynyddoedd, wedi ei syfrdanu ac yn ansicr iawn ynghylch y ffordd ymlaen.

Aeth rhyw ugain o ddynion tân a gweithwyr brys o An Uhelgoad, o Karaez (Carhaix), o Kastellnevez-ar-Faou (Châteauneuf-du-Faou) ac o Montroulez (Morlaix) i’r fan a gwneud eu gorau i ddiffodd y fflamau am nifer o oriau.

Pan ddigwyddodd y drychineb ’roedd y dafarn yn wag, a’r drysau wedi cael eu cau ychydig yn gynt nag arfer. Ni chafodd neb ei anafu. Cynhelir ymchwiliadau i geisio darganfod union achos y tân.


Llun: http://www.flickr.com/photos/bara-koukoug/3713025290/


2 comments:

Bynbrynman said...

Mae'r tafarn yn ail-agor ers Mawrth gynta' 2013.

Bynbrynman said...

Mae'r tafarn yn agor eto.