20/02/2010

Ysgol undydd Cymdeithas Cymru-Llydaw, yn Nolgellau - 20 Chwefror 2010

Ar 20 Chwefror, cafwyd diwrnod difyr yn siarad Cymraeg a Llydaweg yn Nhŷ Siamas, Dolgellau. Rhoddwyd y gwersi gan Peggy Le Bihan a Janig Bodiou, a chafwyd digon o gyfle i sgwrsio, yn ystod y gwersi, adeg coffi (sawl gwaith), dros ginio (mewn caffe digon diddorol), ac yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas.

Nid oedd llawer o bobl wedi dod i'r diwrnod (9 rhwng pawb), ond mae ansawdd wastad yn well na niferoedd, yn fy mhrofiad i, ac ni ellid cael rhagorach criw o ran eu hymroddiad a'u hynawsedd. ’Roeddem yn arbennig o falch fod Tecwyn, ein his-lywydd anrhyeddus, wedi gallu ymuno â ni a'i fod yn cadw'n eithaf da ar hyn o bryd.

Mae'n debyg mai dyma'r tro olaf y bydd Peggy'n dysgu gyda ni, gan ei bod yn mynd yn ôl i Lydaw ym mis Ebrill. Colled fawr inni fydd hynny, am ei bod wedi bod yn frwd iawn yn llawer o'n gweithgareddau er pan ddaeth i Aberystwyth i fyw.

Yn y cyfarfod cyffredinol penderfynwyd y byddai'r Gymdeithas yn noddi Ar Redadeg, y ras fawr i godi arian i achosion sydd yn gefnogol i'r Llydaweg, ac y byddem yn cynnal stondin unwaith eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bwriadwn hefyd gynnal ysgol undydd yn Aberstwyth yn yr hydref.


fideo arall:http://www.youtube.com/watch?v=VEwVsZFX1Eg

No comments: