Mae’r mudiad ysgolion Llydaweg, Diwan (Egino), bellach yn 30 oed.
Mae ganddo 3,209 o ddisgyblion, 341 o staff, a 116 o swyddi cyflogedig amser llawn.
Bu cynnydd o 4.32% yn nifer y disgyblion pan ailagorodd yr ysgolion ym mis Medi, 2009.
3,317,000 € yw cyllideb Diwan ond mae twll yn y coffrau o 150,000 €, sef 4,5% o’r gyllideb.
Er 2006, agorwyd 7 ysgol newydd (Louaneg, Plounevez Moedeg, Kastellin, ar Meziaer, Lokournan, Rianteg ha Savenneg) ac un ysgol uwchradd iau (skolaj) yn Naoned (Nantes). Golyga hyn fod cynnydd o 9 % yn nifer y plant o dan 3 oed sydd yn cael eu trwytho yn yr iaith.
Oherwydd y cynnydd a fu yn nifer yr ysgolion ac yn nifer y plant, rhaid cael hyd i 150,000 € cyn diwedd 2009.
Mae tua 3,500 o bobl sydd yn rhoi arian yn rheolaidd i Diwan, rhai i’r Gymdeithas ac eraill i’r ysgolion, ond i Diwan fynd yn ei flaen yn ddibryder, mae angen cael rhyw 1,000 yn rhagor o roddwyr, a hwythau’n cyfrannu 20€ y mis. (Mae’r swm a gaiff Diwan yn llai na hynny, wedi talu’r trethi.)
Ar hyn o bryd, y nod yw cael arian digonol i sicrhau bod modd talu cyflogau a chostau Diwan tan y Nadolig .
Mae pen draw i’r cymorth ariannol y gall Diwan ei gael gan yr awdurdodau, h.y. Cyngor Rhanbarthol Llydaw a’r 5 département, am eu bod hwy’n gorfod dilyn rheolau caeth.
Pe bai nifer mawr o bobl yn ymateb i’r galw am gyfraniadau, byddai’n dangos ewyllys a phenderfyniad y Llydawyr a byddai hefyd yn haws wedyn gael mwy o arian cyhoeddus. Byddai, wrth reswm, yn haws cael cymorth ariannol hefyd pe bai cyfrifoldeb am addysgu yn cael ei drosglwyddo i’r Cyngor Rhanbarthol.
Mae dyfodol addysg Lydaweg yn dal yn y fantol, ac unrhyw gynnydd yn debyg o fod yn araf. A chynnal y cynnydd a fu gallai fod 60 o ysgolion Llydaweg gan Diwan ymhen 10 mlynedd, a 4,500 o ddisgyblion yn hytrach na’r 3200 sydd ar hyn o bryd.
Crynodeb yn dilyn http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=16745
No comments:
Post a Comment