26/11/2009

DOM DUFF YN ABERYSTWYTH

Nos Fercher
2 Rhagfyr 8pm

Canolfan y Celfyddydau

Aberystwyth

£6 (£4)

DOM DUFF


Brodor o’r ‘Fro Bagan’, yng Ngogledd-orllewin Llydaw, yw Dom Duff, a chaiff ei ystyried yn un o’r cerddorion Llydewig mwyaf cyffrous a gwreiddiol. Mae galw mawr amdano fel gitarydd cyngherddau ac fel cantor. Yn y cyngerdd hwn, fel y bydd gan amlaf ar hyn o bryd, bydd yn canu yn ei famiaith, y Llydaweg.

Achlysur na fydd selogion canu Llydaweg, canu gwerin na chanu Celtaidd, am ei golli
.


No comments: