24/11/2009

Gwnewch bopeth mewn Galiseg

Ai gwlad Geltaidd yw Galisia? Mae llawer yn dadlau ei bod. Heb os nac oni bai, mae modd sôn am gysylltiadau Celtaidd cryf y wlad, ond wrth gwrs, nid oes ganddi iaith Geltiadd heddiw. Mae ganddi, fodd bynnag, ei haith ei hun, Galiseg, iaith Ladinaidd sydd yn perthyn yn agos i Bortiwgaleg ac a siaredir gan fwy na thair miliwn o bobl. Mae Yoran Embanner, cwmni cyhoeddi Llydewig, newydd gyhoeddi geiriadur poced Ffrangeg-Galiseg / Galiseg-Ffrangeg, ac mae ar fin rhyddhau un Llydaweg-Galiseg / Galiseg-Llydaweg.

Cydnabyddir Galiseg gan Gyfansoddiad Sbaen fel iaith swyddogol, yn yr un modd ag y rhoddir sêl bendith swyddogol i'r Fasgeg ac i'r Gatalaneg. Er bod Galiseg yn eithaf tebyg i Sbaeneg ac i Bortiwgaleg, mae ganddi ei safonau ysgrifenedig a'i thraddodiad llenyddol ei hun.

Dico de poche bilingue galicien/français

Golygydd: Yannig Laporte

8,5x12cm- 280 o dudalennau -8,50€

ISBN 978-2-914855-62-4

Manylion pellach:

71 Hent Mespiolet
29170 Fouesnant
yoran.embanner at gmail.com

No comments: