22/11/2009

Cymylau duon y Blaid Sosialaidd uwchben Euskadi

Cyhoeddwyd gan Isabel Celaá, Cynghorydd Addysg Gwlad y Basg, y caiff y Sbaeneg yr un statws â’r Fasgeg yn y gyfundrefn addysg yn y rhan o Wlad y Basg sydd â hyn a hyn o ymreolaeth (Euskadi) ac y caiff y term Euskal Herria (Gwlad y Basg) ei ddileu o lyfrau ysgol pan fo’n cyfeirio at gysyniad gwleidyddol.

Hyd yn hyn mae’r Fasgeg wedi bod yn iaith arferol yr ysgolion, a diau mai hynny, yn anad dim, sydd yn cyfrif am y llwyddiant cymharol i gryfhau’r Fasgeg pan fo’r Sbaeneg a’r Saesneg yn pwyso mor drwm arni.


Mae Celaá, fodd bynnag, wedi penderfynu bod cadw’r Fasgeg fel iaith gyffredin y gyfundrefn addysg yn gwahaniaethu’n annheg yn erbyn yr 80% o’r boblogaeth sydd yn siaradwyr Sbaeneg yn y lle cyntaf. Yn ei datgnaniad mynnai nad oedd y drefn yn cydnabod realaeth ieithyddol y wlad.

Y nod bellach yw’r trychinebus ‘ddwyieithedd cytbwys’, rhywbeth tebyg i'r hyn sydd gennym yng Nghymru ac sydd, yn amlach na pheidio, yn gadael ein pobl ifainc heb ddim ond gafael wan ar y Gymraeg.



http://www.eitb.com/news/politic/detail/280959/education-to-give-equal-priority-to-basque-and-spanish/

No comments: