10/11/2009

Erwan Tranvouez 1922-2009

Ar 7 Hydref, 2009, bu farw Erwan Tranvouez. Bydd amryw aelodau o Gymdeithas Cymru-Llydaw, y rhai a fu’n mynychu KEAV pan oedd yn Skaer, er enghraifft, yn cofio Erwan fel y gŵr bychan siriol a gweithgar a roddai oriau lawer i weithio yn y swyddfa.

Hir fu ei ymlyniad wrth fudiad yr iaith gan ei fod, am bedair bynedd, yn ysgrifennydd i Roparz Hemon yn Roazhon. Yn ogystal â gweithio gyda KEAV, y cwrs haf gorau i’r sawl sydd wedi dysgu digon o lydaweg i sgwrsio, ’roedd Erwan ar bwyllgor y cylchgrawn llenyddol Al Liamm. Bu hefyd yn cyhoeddi darnau yn y cyfnodolyn hwnnw.

No comments: