06/11/2009

Dros 30,000 o erthyglau Llydaweg yn Wikipedia

Os Wikipediaphile ydych chi ac yn dysgu Llydaweg, cofiwch gyfuno eich diddordebau.

Bellach mae dros ddeg ar hugain o filoedd o erthyglau mewn Llydaweg ar y wefan honno, gyda deng mil wedi eu hychwanegu yn ystod y flwyddyn sydd newydd fynd heibio. Y Llydaweg, wir, yw'r unfed iaith a hanner cant yn rhestr yr holl ieithoedd ar Wikipedia, a hi yw'r gyntaf o blith yr ieithoedd Celtaidd.

Ceir deunydd ar amryw feysydd, gan gynnwys hanes, gwyddoniaeth, yr economi, a'r celfau cain.

A dyma'r ddolen:


www.br.wikipedia.org

http://www.ofis-bzh.org/bzh/actualite/zoom/index.php?actualite_id=299

No comments: