10/12/2009

Ffrainc yn dal i ofni amrywiaeth ieithyddol

Mae’n debyg mai un o addewidion ymgyrch etholiadol Nicolas Sarkozy oedd cynllun y cyn-Weinidog Diwylliant, Christine Albanel, i gyflwyno mesur i gydnabod ieithoedd traddodiadol Ffrainc heblaw’r Ffrangeg. Bellach, mewn ateb i gynrychiolydd seneddol Sosialaidd o’r Gironde, mae Éric Besson, gweinidog â chyfrifoldeb am hunaniaeth genedlaethol Ffrainc, wedi llwyr wrthod y syniad hwnnw.

A Léonard Orphan, comisiynydd Ewropeaidd, newydd fod yn ymweld â Llydaw ac yn sôn am amrywiaeth ieithyddol cyfoethog y wlad, dyma ergyd arall i’r rhai sydd yn awyddus i gryfhau sefyllfa’r Llydaweg

Yn ôl Besson, byddai ystyried mesur a gydnabyddai ieithoedd eraill ar diriogaeth Ffrainc yn rhy beryglus i unoliaeth y Weriniaeth ac i gydraddoldeb gerbron y gyfraith.

http://www.ouest-france.fr/region/bretagne_detail_-Langues-regionales-le-projet-enterre-_8619-1186222_actu.Htm

2 comments:

Anonymous said...

sosialwyr unwaith eto yn erbyn hawliau ieithyddol - swnio fel Cymru!

Sut mae rhai pobl yn dal i feddwl fod Sosialwyr yn 'well' na phobl ar y dde? Mae eu traha nhw'n mynd dan fy nghroen.

Dyma chwaer blaid Rhodri Morgan, Carwyn Jones, Glenys Kinnock ac Eluned Morgan. Pam nad yw Plaid Cymru yn gofyn i'r Cymry da yma gigio Plaid Sosialaidd Ffrainc allan o'u clymblaid yn Ewrop am arddel barn ffasgaidd fel hon?!

teod-karv said...

Er nad yw'r Blaid Sosialaidd yn frwd dros y Llydaweg, at ei gilydd, mae ei hagwedd yn llawer gwell nag eiddo plaid Sarkozy... Nid ar Sosialwyr y mae'r bai y tro hwn...