06/01/2010

Dyfodol Amgen i Lydaw?

- Llun
o'r cylchgrawn newyddion misol Bremañ: 'Cynllun Amgen Newydd i Lydaw - Dyfodol cynaliadwy i Lydaw - Byw'n well heb olew a heb ynni niwclear'
Ar diwedd haf 2009, cynigiodd yr UDB (Undeb Democrataidd Llydaw) ei Gynllun Amgen i Lydaw, sef atebion i broblemau ecoddatblygu yn y wlad. Myn y Cynllun fod angen ennill grym - economaidd, cymdeithasol , gwleidyddol a diwylliannol - a pharchu'r amgylchedd ar yr un pryd. Mewn gwirionedd, fersiwn newydd ar gynllun a gyhoeddwyd gyntaf yn 1979 yw hwn, ac mae'n ystyried sut y gall Llydaw ei rheoli ei hun ac amddiffyn ei hamgylchedd. Mae'r UDB yn feirniadol o ddiffyg gweledigaeth y rhan fwyaf o wleidyddion sydd, meddir, yn ofni cynifer o lobïwyr grymus, megis cwmnïoedd ynni a byd busnes amaethyddol.

Yn ddiweddar, gyda'r tywydd oer, mae llawer o sylw wedi cael ei roi i ddibyniaeth Llydaw ar rannau eraill o Ffrainc am drydan. Am nad oes pwerdai mawr yn Llydaw ac am na chynhyrcha'r wlad gymaint o drydan ag a ddefnyddia mae'r cyflenwad i fannau yn y gorllewin yn cael ei fygwth. Mae'r Cynllun yn galw am ddatganoli cynhyrchu trydan a'i ddarparu yn lleol pan fo modd. Pwysleisir hefyd yr angen i ynysu tai'n well fel na caiff cymaint o ynni ei wastraffu.

Gwêl yr UDB fod datganoli grym a datganoli cyfrifoldeb am yr amgylchedd yn mynd law yn llaw.

(Yn seiliedig ar erthygl yn Bremañ -rhifyn 338.)

No comments: