07/12/2009

Cefnogwch 'Ar Redadeg' ar Facebook

Mae grŵp 'Ar Redadeg' (y ras fawr i godi arian i'r Llydaweg) bellach ar Facebook: Ar Redadeg 2010

Beth am ymuno i ddangos eich cefnogaeth?


Wedi ei seilio ar batrwm ‘Korrika’ Gwlad y Basg, ras gyfnewid a gynhelir bob yn ail flwyddyn yw’r ‘Redadeg’. Ei hamcan yw codi arian i’r Llydaweg a chodi proffil yr iaith. Fe’i cynhaliwyd gyntaf yn 2008, gan Diwan, mudiad yr ysgolion Llydaweg. Llwyddodd y tu hwnt i bob disgwyl, gyda rhyw 8,000 o bobl yn cymryd rhan. Cafodd dros 700 cilometr o’r ras eu noddi gan fusnesau, gan gymdeithasau a chan unigolion.

1,200 cilometr fydd hyd ras 2010, a bydd yn para am 4 diwrnod a hanner, gan adael Roazhon (Rennes), prifddinas Llydaw, ar 10 Mai. Unwaith eto, mae gwirfoddolwyr wedi camu i’r adwy. Yr un yw’r nod o hyd: uno’r Llydawiaid y tu ôl i’r Llydaweg a rhoi iddynt ran mewn helpu’r iaith i oroesi ac i gynyddu. Rhoddir hanner yr elw i Diwan a rhennir y gweddill rhwng cyrff eraill sydd yn hyrwyddo’r iaith.



No comments: