01/09/2009

Arwyddion enwau'r strydoedd yn ddwyieithog yn Pondi (Pontivy)


Llofnododd tref Pondi Siarter y Llydaweg yn ôl yn 2004 ac yn 2007 cafodd y label 'lefel 2' ei rhoi iddi. Bellach caiff y Llydaweg fyw byth o le yno gan y bydd enwau'r strydoedd yng nghanol y dref i gyd yn ddwyieithog. Bwriedir mynd ymlaen wedyn i wneud yr un peth mewn rhannau eraill o'r dref.


Os oes gennych luniau perthnasol i'r Llydaweg, cofiwch eu postio yn y casgliad hwn ar Flickr:





2 comments:

Anonymous said...

Newyddion da. Mae pethau'n symud yn araf deg yn y cyfeiriad iawn.

newydd ddychwelyd o Lydaw gyda criw gyfeillio Llandysul-Plogoneg ac yn sylwi fod yr hyder yn yr iaith a'r diwylliant a bellach cenedligrwydd Llydaw ar gynnydd. Mae'n symud oddi ar y ddelwedd 'folkloric' roedd Ffrainc yn barod i'r oddef.

Parch mawr i'r Llydawyr - 'da ni ddim yn gwybod ein geni wrth feddwl am agwedd lled-ffasgaidd meddylfryd y wladwriaeth Ffrengig tuag at yr iaith ac hunaniaeth Llydaw.

Buom yn Manor Kernoud lle bu Villemarque yn byw gan weld arddangosfa 4 iaith (Cymraeg, Llydaweg, Ffrangeg a Saesneg) am ei daith i Gymru yn 1838. Prynom raglen o'r arddangosfa - y fersiwn Lydaweg a Chymraeg! Pob clod i'r trefnwyr yng Nghymru a Llydaw am weithio ar yr arddangosfa!

Doedd gen i ddim camera oes ffotos gan rai o griw Llandysul o'r daith?

Da oedd gweld cydnabod cyfraniad hael a phwysig Wena a Huw Bevan-Jones i'r gyfeillio rhwng y ddwy ardal mewn seremoni arbennig i dathlu 20 mlynedd o efeillio. Roedd yn ddiddorol gweld cymaint o drefi Cymru oedd wedi gyfeillio ... ond gymaint oedd heb! Beth amdanni gynghorwyr genedlaetholwyr, Pleidwyr Porthmadog, Y Bala, Aberaeron, Pwllheli, Llangefni, y Rhondda - beth am efeillio - mae'n siwr gall Cymdeithas Cymru-Llydaw eich helpu!


S.T.J.

teod-karv said...

Diolch o galon am dy sylwadau. Trueni nad oes ffotos hyd yn hyn. Efallai y daw rhywbeth i law gan griw Llandysul.