02/09/2009

Cwrs Llydaweg Glan-llyn

Dyma gyfle eto i dynnu sylw at gwrs y Gymdeithas rhwng 9 ac 11 Hydref yng Ngwersyll Glan-llyn. Gofynnwyd i bobl gofrestru yn ôl ym mis Chwefror, ond deallaf fod lle ar ôl o hyd, os bydd rhywun arall am ymuno â ni. Mae tuag 20 o bobl wedi rhoi eu henw i lawr eisoes, gan gynnwys 3 athro sydd yn wreiddiol o Lydaw. Bydd 3 gwahanol safon, a gellir darparu dosbarth i ddechreuwyr hefyd ar ben hynny.

Y gost breswyl yw £99

Cost y dosbarthiadau: £32 i aeloadau / £37 i eraill (aeloadaeth = £8)


Os hoffech gael lle ac ’rydych heb gadw lle eisoes, dylid rhoi gwybod i rhh@aber.ac.uk a hefyd anfon blaendal o £25 i Huw Antur Edwards huwantur@urdd.org
Llun: Dawnsio adeg y penwythnos yn Nant Gwrtheyrn yn 2008.

No comments: