Mae perygl i Maison de la Bretagne yn Poznan, yng Ngwlad Pwyl - gefeilldref i Roazhon (Rennes) - gau am na all yr awdurdodau yno fforddio ei noddi bellach.
Sefydlwyd y ganolfan yn 1983, yn nghanol y ddinas, mewn adeilad a godwyd yn y 15fed ganrif, a cheir yno bron 8,000 o lyfrau, llawer ohonynt yn berthnasol i hanes ac i dreftadaeth Llydaw. Mae hefyd yn fan i amryw weithgareddau diwylliannol : cynadleddau, sesiynau drama a dawnsio etc.
Mae Strollad Breizh yn galw ar Gyngor Rhanbarthol Llydaw i roi nawdd i achub y ganolfan. contact@partibreton.org
No comments:
Post a Comment