21/09/2009

Rhoi ffens o amgylch y Llydaweg


Mae 49 o rieni i blant yn Ysgol Feithrin Jacques-Prévert, yn Bruz, ym mro Roazhon (Rennes) - Il-ha-Gwilen / Ille-et-Vilaine, http://www.geobreizh.com/breizh/bre/keriou-fichenn.asp?insee_ville=35047 yn galw am sefydlu ail ddosbarth dwyieithog ar frys, gan eu bod yn gwybod bod gwir angen rhagor o adnoddau i gwrdd â'r galw, ond mae'r cyfarwyddwr addysg (Inspecteur d’académie), sef Jacques-Prévert, wedi datgan:

« Je ne trouve même pas de vacataire à recruter. Notre département n’est pas un département "brittophone". C’est une langue artificielle » (le Mensuel de Rennes, 16/09/2009).


(’Dwy' i ddim hyd yn oed yn meddwl am gael hyd i rywun sy'n gweithio ar ei liwt ei hun. Nid département lle y siaredir Llydaweg yw hwn. Iaith artiffisial yw hi.)

Dyma esgus arall i ychwanegu at y rhai arferol - prinder arian, prinder athrawon, diffyg galw etc.... Dim ond yng Ngorllewin Llydaw y dylid dysgu Llydaweg, ac mae'n iaith artiffisial ym mhob man arall!

No comments: