10/07/2009

Yr asgell dde o blaid y Llydaweg?

Wedi ei hysbrydoli gan yr hyn a wneir yng Nghymru, mae'r cynghorydd rhanbarthol Françoise Louarn, o blaid yr UMP, yn dweud ei bod am i lywodraeth ranbarthol Llydaw sefydlu, fel rhan o'r gwasanaeth addysg gyhoeddus, 1. dosbathiadau Llydaweg dewsiol yn yr ysgolion lle y mae ffrwd ddwyieithog, a 2. cyrsiau i gyflwyno peth Llydaweg y tu allan i oriau'r dosbarthiadau swyddogol i bawb mewn lise (ysgol uwchradd hŷn).

Mae'r cynlluniau hyn, y gellir credu y byddent yn hynod arwynebol ac aneffeithiol, beth bynnag, wedi cael eu gwrthod gan yr UDB, sydd yn dadlau y byddent yn rhy gymhleth ac anodd i'w gweithredu.
.
http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=15618

No comments: