11/07/2009

Llydawes i'w derbyn i'r Orsedd

Clywsom sôn bod Riwanon Kervella, sydd yn gweithio i Kuzul ar Brezhoneg, i gael ei derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala eleni. Hoffem ei llongyfarch a dymuno'n dda iddi. Bydd yn gweithio am ran o'r amser ar stondin Cymdeithas Cymru-Llydaw (gweler rota'r Eisteddfod ar y blog).

Magwyd Riwanon ar aelwyd gwbl Lydaweg, a dysgodd Gymraeg pan dreuliodd flwyddyn yng Nghymru yn y 70au. Bu'n gweithio fel cynorthwywraig Ffrangeg yn ysgolion Tregaron a Phenweddig a bu'n dysgu Llydaweg hefyd yn y Brifysgol.

Mae'r gantores Connie Fisher a'r athletwraig Tanni Grey-Thompson, ymhlith y rhai a dderbynnir i'r Orsedd eleni.

No comments: