11/07/2009

Ysgol uwchradd Lydaweg Naoned (Nantes), gefeilldref Caerdydd, yn cyrraedd diwedd ei blwyddyn gyntaf

Ym Medi 2008 agorodd Skolaj Diwan al Liger-Atlantel (Ysgol Uwchradd Lydaweg Bro Liger [Loire] Atlantaidd) ei drysau am y tro cyntaf, a chafwyd blwyddyn lwyddiannus.

Yn ôl Yannig Guillanton, llywydd Pwyllgor Cefnogwyr yr Ysgol (a welir yn llun), buwyd, o’r dechrau, yn pwysleisio’r angen i gael cyswllt agos â chymdeithasau ac â chanolfannau eraill, yn Naoned a’r tu allan. Erbyn hyn, meddai, ‘‘rydyn ni am roi cyfle i’r disgyblion i ymweld â gwledydd eraill; dyna rywbeth o bwys inni.’

Os oes unrhyw ysgol yng Nghymru a hoffai achub y cyfle i ddechrau perthynas â’r ysgol, ac efallai yn y pen draw, drefnu cyfnewidiadau, byddai diddordeb mawr gan Yannig glywed oddi wrthych. Gellir anfon neges i Gymdeithas Cymru-Llydaw d/o
rhh@aber.ac.uk Er mai gefeilldref Caerdydd yw Naoned, byddai’r ysgol yn falch o gysylltu ag unrhyw ysgol yng Nghymru.

Mae Yannig Guillanton yn pwysleisio bod angen mwy o arian ar yr ysgol fel y gall ehangu ymhen blwyddyn neu ddwy, wrth i nifer y disgyblion gynyddu. Y broblem fwyaf yw’r adeiladau, am fod gwir angen mwy o le. Gan fod y disgyblion yn teithio o wahanol fannau i gael addysg Lydaweg, rhaid i lawer ohonynt gysgu yn yr ysgol. Gan mai 22 o ddisgbylion sydd ar hyn o bryd, nid oes problem, ond wrth i ragor ddod, bydd angen mwy o ystafelloedd.

Fel arfer yn hanes addysg Lydaweg, rhaid i’r ysgol apelio am gyfraniadau. Eu nod yw cael 5000€ (tua £4,300) o roddion bob mis, dipyn yn fwy na’r 2775€ a dderbynnir ar hyn o bryd. Rhaid talu arian yn ôl i fudiad Diwan, talu’r rhent, talu am offer a chynnal a chadw...

Ysgol fechan yw Skolaj Diwan al Liger Atlantel ar hyn o bryd, ond mae ei dylanwad eisoes yn llawer mwy na’i maint. Dengys yn glir mai dinas Lydewig yw Naoned, a dinas lle y mae lle i’r Llydaweg hefyd.


Ffynhonnell: Ya!

3 comments:

Anonymous said...

oni ddylai Glantaf a Plas Mawr wneud rhywbeth gan fod Caerdydd wedi ei gefeillio a Naoned? Ydi hi'n werth i chi hala ebost atynt cyn ddiwedd y tymor?

Macsen

teod-karv said...

Syniad da. Ofnaf na fydd modd imi anfon negeseuon e-bost am ryw wythnos ond efallai y gall rhywun arall wneud. Fel arall, gwnaf yn ystod y gwyliau. Anfonais neges at rywun ym Mhenweddig, Aberystwyth, llynedd, ond ni ches ateb.

teod-karv said...

Anfonais neges e-bost i Ysgol Glan Taf...