09/07/2009

Breizh-Llydaw - rhifyn 51

Mae rhifyn mis Awst o gylchgrawn Cymdeithas Cymru-Llydaw newydd gael ei roi yn y post a'i anfon at ein haelodau.

Os digwydd i ryw aelod beidio â chael ei gopi, anfoned neges e-bost atom a chaiff ei bostio rhag blaen.

Os nad ydych yn aelod ac yr hoffech gael hen rifyn (am ddim) neu'r un newydd am £3, rhowch wybod inni.

Beth sydd y tu mewn?

Heblaw am newyddion Llydaw yn Gymraeg, mae darnau ar: Lluniau a cherfluniau Olier Berson - Diploma Galwedigaethol Llydaweg Prifysgol Gwengamp - Gerddi Llydaw - Gwennole ar Menn - Peggy Le Bihan... a hefyd: adolygiad ar Lennegezhioù ar Bed - yr hanner cyntaf o gyfieithiad Cymraeg o stori gan Per Denez - ychydig o ddiarhebion... a phethau eraill...

Yn rhannol, mae'n ddwyieithog ac mae rhannau eraill naill ai yn Gymraeg neu yn Llydaweg....

Cyfranwyr i'r rhifyn hwn: Olier Berson, Richard Thorpe, Per Denez, Jacqueline Gibson, Yann Talbot, Peggy Le Bihan, Gwenno Piette.

No comments: