28/07/2009

Troi Menez-Mikael-ar-Mor yn ynys eto

Ar wefan Ouest-France ceir llun trawiadol a diddorol o Menez-Mikael-ar-Mor (Mont-Saint-Michel) wedi ei amgylchynu gan y môr:

http://www.ouest-france.fr/actu/actuDetFdj_-Comment-le-Mont-Saint-Michel-retrouve-la-mer-_39382-1018122_actu.Htm

Dyna sut y gallai edrych wedi i waith gael ei gwblhau ar y cob ar afon Kouenon (Couesnon) yn 2014.
Fel y gŵyr y sawl sydd wedi ymweld â'r lle, y mae Menez-Mikael-ar-Mor yn fan sydd yn tynnu heidiau o dwristiaid o bell ac agos, ac o ganlyniad ychydig iawn o hedd nac o awyrgylch hynafol sydd yno, yn yr haf o leiaf. Mae maes parcio anferth, siopau yn llawn trugareddau a ffrwcs i bobl gael mynd adref â nhw i gofio am eu hymweliad, ac eglwys sydd yn rhaid talu i fynd i mewn iddi. Ni all neb wadu nad yw'n lle hardd, er hynny.

Y bwriad bellach yw troi Menez-Mikael-ar-Mor yn ynys unwaith eto. Cymerwyd y cam cyntaf yn ôl yn 1995, ac wedi deng mlynedd o astudiaethau a thrafodaethau di-ben-draw, dechreuwyd ar y gwaith yn 2006. Bydd argae, neu gob, yn rheoli llwybr afon Kouenon, fel na chaiff gymaint o dywod ei adael wrth waelod y Menez, a chodir sarn neu bont i gysylltu'r Menez â maes parcio i 4,000 o geir, 2 gilometr o'r rhafuriau. Bydd yr ymwelwyr yn cael eu gwenoli yn ôl ac ymlaen.

Mewn gwirionedd, nid yn Llydaw mae Menez-Mikael-ar-Mor, ond mae ar ffin Gogledd-ddwyrain Llydaw, ar ffin Bro-Zol ar y map hwn:

No comments: