29/07/2009

Â'i chwt wedi ei godi o hyd?

Mae crysau-T newydd a mygiau newydd gan y Gymdeithas - ar werth am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod.
Pris y crysau-T yw £8.
Pris y mygiau yw £4.50 neu 2 am £8.
Cofiwch brynu digon tra bydd gennych gyfle!


Mae’r cynllun ar fygiau newydd a chrysau-T newydd Cymdeithas Cymru-Llydaw, sydd i’w rhoi ar werth gyntaf yn Eisteddfod Meirion, yn debyg o dramgwyddo’r rhai sy’n dadlau mai dwyn gwarth ar Gymru yw darlunio’r ddraig â’i chynffon yn pwyntio i lawr yn hytrach nag i fyny. Mae’n debyg i gryn drafod fod ar hyn ychydig flynyddoedd yn ôl, pan fuwyd yn trafod pa fath o ddraig a ddylai fod ar logo dinas Caerdydd. Yn ôl y sôn, darn a gyhoeddwyd yn y Western Mail yn gwneud sbort am ben dreigiau a oedd â’u cwt yn mynd tuag i lawr a barodd i bobl dybio na châi'r ddraig Gymreig wneud y fath beth.

Yn hanesyddol, ceir nad oedd gwahaniaeth i ba gyfeiriad ’roedd cynffon y ddraig goch yn pwyntio, ac yn sicr, ’roedd cwt y ddraig tuag i lawr ar arfbais Harri VIII, fel y mae ar arfbais Aberystwyth.

Mae cynllun nwyddau newydd Cymdeithas Cymru-Llydaw yn dangos draig, arwyddlun Cymreig, a charlwm, arwyddlun Llydewig, ond tra bo cynffon y carlwm tuag i fyny mae un y ddraig tuag i lawr.


Paham carlwm? Yn ôl y chwedl, ’roedd y Dduges Anna, a anwyd yn 1477, yn teithio yn Llydaw pan welodd rai'n hela carlwm. Pan gyrhaeddodd yr anifail ymyl pyllaid o ddŵr lleidiog, brwnt, dewisodd wynebu’r helwyr yn hytrach na gadael i’r baw faeddu ei flew gwyn. Cyffrowyd y dduges wrth weld hyn ac erfyniodd ar yr helwyr i beidio â lladd y creadur. Daeth wedyn i fabwysiadu’r carlwm fel ei harwyddlun, gyda’r arwyddair Lladin: Potius mori quam foedari (Gwell marw nag ymddifwyno).

Mewn gwirionedd, ’roedd y carlwm, neu’n hytrach yr ermin, yr arwydd herodrol sy’n cynrychioli blaen du cynffon y creadur, i’w gael ar arfbeisiau dugiaid Llydaw ymhell cyn cyfnod Anna. Fe’i mabwysiadwyd gyntaf gan Pêr Vrizhkloareg (Pierre Mauclerc) yn hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg, ond am i’r Dug Yann III fabwysiadu tarian wen yn llawn erminau y daeth i arwyddocáu Llydaw.

Peidiwch â phetruso cyn prynu’r crys-T a’r mwg... rhaid i hyd yn oed draig ymlacio a gostwng ei chynffon ambell dro, a phrin y byddai am gyfarch y carlwm bach mewn modd ymosodol...

Diau y bydd hen fygiau’r Gymdeithas, a werthwyd i gyd, yn eitemau i gasglwyr cyn bo hir... Mae’r cwmni a’u gwnaeth bellach wedi mynd yn fethdalwr.

http://flagspot.net/flags/gb-wales.html

http://www.nationalarchives.gov.uk/utk/wales/popup/coat.htmhttp://www.crwflags.com/fotw/images/g/gb-hvii.gif

http://www.flickr.com/photos/bara-koukoug/3766981374/in/pool-1159568@N20

No comments: