27/07/2009

'Brezhoneg' ar Flickr.com

A oes gennych chi luniau o bobl yn siarad Llydaweg, o gyrsiau Llydaweg, o ysgolion Llydaweg, o arwyddion ffyrdd Llydaweg, o lyfrau Llydaweg?

Bellach mae adran ar safle gwe Flickr lle y gellir dangos i bawb, neu i'ch ffrindiau yn unig os yw'n well gennych, unrhyw lun sydd yn berthnasol i'r iaith.

Mae'n rhad ac am ddim ac yn ffordd dda o ddangos, i bawb drwy'r byd i gyd, mai iaith fyw yw'r Llydaweg, yn iaith sydd yn cael ei siarad, ei defnyddio a'i thrysori...

No comments: