16/06/2009

Marwolaeth Ivetig an Dred

Bu farw Ivetig an Dred, gwraig weddw Frañsez Kervella, a mam i Erwan (a laddwyd mewn damwain ffordd ac a goffeir yn y gân 'Erwan, kenavo!' gan Meic Stevens), Riwanon, Annaig ha Divy. Ysgrifennai weithiau o dan y ffugenw Soaz an Tieg, bu'n gweithio am flynyddoedd maith yn cywiro ymarferion cannoedd lawer o ddisgyblion Skol Ober. ’Roedd ei chroeso wastad yn gynnes a'i sgwrs yn ddifyr ac yn ddiddorol. Gadawodd argraff ddofn iawn arnaf i fy hun ac nid oedd dim yn well gennyf na gwrando ar ei Llydaweg, iaith wledig naturiol Bro-Dreger, ond gan rywun a oedd wedi astudio ei hiaith a'i diwyllio er gwaethaf y drefn addysg felltigedig sydd yn gwneud pob dim i ddinistrio etifeddiaeth ddiwyllannol Llydaw. Hir y gwerthfawrogir ei chyfraniad a hir yr erys ei hynawsedd eithriadol ar gof gan gannoedd lawer ohonom.

No comments: