03/06/2009

Cyfieithu awtomatig Llydaweg-Ffrangeg

Ar ddydd Llun, 18 Mai, yn Roazhon (Rennes), cafwyd cyflwyniad gan swyddogion Ofis ar Brezhoneg (Bwrdd y Llydaweg) i ffrwyth eu gwaith ar y cyd gyda Francis Tyers, arbenigwr cyfrifiadurol gyda Promsit Language Engineering, sef rhaglen cyfieithu awtomatig o'r Llydaweg i'r Ffrangeg.

Nid cynnig cyfieithiadau perffaith, nac o safon dda, yw nod cyfieithu awtomatig, ond darparu trosiadau yn chwim ac sydd yn eithaf dealladwy er gwaethaf y diffygion amlwg.

Gobeithir y caiff y rhaglen ei gwella yn y dyfodol, ond eisoes gall adnabod 85% o eirfa'r Llydaweg. Cyn diwedd yr haf gobeithir y bydd y trosydd i'w gael ar wefan Ofis ar Brezhoneg.

http://xixona.dlsi.ua.es/~fran/breton/troer/index.php

http://www.ofis-bzh.org/bzh/actualite/zoom/index.php?actualite_id=274

No comments: