03/06/2009

Protest Ai'ta! yng ngorsaf An Alre











Ar 29 Mai, cymerodd mwy na hanner cant o bobl ran ym mhrotest Ai'ta! yng ngorsaf An Alre (Auray), yn neuheudir Llydaw. Am ryw ddwy awr bu'r gwrthdystwyr yn dawnsio o amgylch yr orsaf - y tro cyntaf i'r mudiad gynnal digwyddiad o'r fath yn y rhan honno o'r wlad.

Croesawyd y brotest gan lawer iawn o'r teithwyr ac ’roedd yn neges yn glir: mae polisi rheilffyrdd Ffrainc (SNCF) o anwybyddu'r Llydaweg yn anghyfiawn.

Ar ganol y dawnsio cafwyd egwyl i gael mynd ati i addurno'r orsaf, y tu mewn a'r tu allan, â glynion Llydaweg, fel y byddai'r holl arwyddion yn ddwyieithog.

Dyn na chafodd ei ddifyrru gan y gweithgarwch oedd rheolwr yr orsaf a aeth ati i dynnu'r holl lynion, yn y fan a'r lle bron.

Mae Ai'ta! yn holi beth y dylai'r cam nesaf fod. Mae dal i gynnal gweithgareddau o'r math hwn yn ffordd benigamp o dynnu sylw at yr iaith ac o newid agwedd pobl ati, ond mae'n amlwg hefyd na fydd yn llwyddo i newid meddwl rheolwyr SNCF. Diau y bydd tactegau newydd - yn dal yn ddi-drais ac yn annisgwyl - maes o law, meddir.

Mae lluniau o'r brotest ar:

http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=15308

No comments: