Ddydd Sadwrn, ymgasglodd dros 2,000 o bobl yn Gasteiz (Araba, Gwlad y Basg) i alw am gau atomfa Santa Maria de Garoña, Burgos, Sbaen.
Yn lle dal i gloffi rhwng dau feddwl, bydd yn rhaid i Zapatero a llywodraeth Sbaen benderfynu, cyn 5 Gorffennaf, a ydynt yn gweld dyfodol i ynni niwclear neu beidio. Yn ôl y protestwyr, dim ond un ateb sydd, am fod yr atomfa’n berygl i’r gymdeithas ac i’r amgylchedd ac am fod ei chau yn addewid etholiadol gan Zapatero.
http://www.berria.info/paperekoa/harian/2009-05-31/007/006/Mundu_berria_ate-joka.htm
No comments:
Post a Comment