31/05/2009

Y Llydawyr am fwy o bŵerau i'w gwlad

Mae arolwg barn a wnaed ar y cyd gan CRAPE (Le Centre de Recherches sur l'Action Politique en Europe ), ESF (European Science Foundation) a chanolfan ymchwil CNRS, yn dangos bod y rhan fwyaf o Lydawyr yn awyddus i Lydaw gael mwy o reolaeth dros ei materion ei hun.

O ran cenedligrwydd, teimlai 1.5% o'r rhai a holwyd mai Llydawyr ac nid Ffrancwyr oeddent, 22.5% eu bod yn Llydawyr yn fwy nag yn Ffrancwyr, 50% eu bod yn perthyn yn gymaint i Lydaw ag i Ffrainc, 15.4% eu bod yn Ffrancwyr yn fwy nag yn Llydawyr, a 9.3% mai Ffrancwyr oeddent yn hytrach nag yn Llydawyr.

Credai 4.6% y dylai Llydaw fod yn annibynnol, 51.9% y dylai Cyngor Rhanbarthol Llydaw gael mwy o bŵerau , 31.3% fod gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw gymaint o bŵerau ag a oedd ei angen, 1.6% y dylai llywodraeth Llydaw gael llai o rym, ac 1.4% nad oedd y Cyngor o werth yn y byd.

http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=15280

No comments: