30/05/2009

Awdurdodau'r ysgolion Catholig yn gwneud cam â'r Llydaweg

Mae’r corff sydd yn gyfrifol am ysgolion Catholig Llydaw wedi cyhoeddi y bydd dosbarthiadau dwyieithog ysgol Plouvien yn y Gogledd-Orllewin (Leon), yn cau. 37 o ddisgyblion sydd yn y ffrwd ddwyieithog yno.

Yn ôl yn 2005 ’roedd 73 o ddisgyblion yn ffrwd ddwyieithog ysgol Plouvien a’r lleihad yn y nifer yw’r rheswm a roddir am y penderfyniad. Ym marn llawer, fodd bynnag, difaterwch yr awdurdodau Catholig sydd ar fai am y dirywiad, a mynnir bod y sefyllfa yn yr ysgolion Catholig yn gwrthgyferbynnu â’r patrwm a welir yn gyffredinol, sef cynnydd yn y galw am addysg Lydaweg a dwyieithog.

Ymddengys y gallai dosbarthiadau dwyieithog ddiflanu hefyd mewn ysgolion Catholig eraill maes o law. Eisoes mae llai o athrawon yn cael eu hyfforddi i ddysgu yn yr ysgolion hynny, rhywbeth cwbl groes i bolisi’r llywodraeth ranbarthol sydd yn dymuno codi nifer y lleoedd mewn ysgolion dwyieithog.

http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=15278

No comments: