Os bu i rywun yn y Cynulliad gamgyfieithu 'swine flu' fel 'ffliw moch', sef 'a swine flu', paham y mae'n rhaid i bob cyfieithydd arall ddilyn yn ddall yn lle defnyddio 'ffliw'r moch', yr hyn sy'n idiomatig ac yn gywir yn Gymraeg?
Ger Aberystwyth ceir gwesty 'Llety Parc' ac yn Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth 'Caeau Ficerdy'. Mewn rhai ysgolion sonnir am 'y cyngor ysgol', a diau y bydd 'y neuadd dref' a'r 'frech ieir' yn cael eu derbyn yn ddigwestiwn cyn bo hir....
Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, ond nid camgymeriad syml yw hwn ond rhan o ddisodli'r Gymraeg gan Saesneg mewn gwisg Gymreig. Byddai dysgu unrhyw un o'r ieithoedd Celtaidd yn debyg o helpu cyfieithwyr i feistroli priod-ddulliau'r Gymraeg...
No comments:
Post a Comment