22/05/2009

Buhez Mab-den / Bywyd dyn

Ystyrir y gerdd ‘Buhez Mab-den’ / ‘Bywyd dyn’ yn waith mwyaf caboledig llenyddiaeth Llydaweg Canol. Ceir darn o’r testun, a nodiadau arno, yn Llawlyfr Llydaweg Canol, gan Henry Lewis a J. R. F. Piette (adarg. Caerdydd, 1966), ac ymdriniwyd â hi hefyd mewn erthygl ddifyr gan Bobi Jones, sef ‘Llenyddiaeth Lydaweg y 15fed Ganrif’,yn Y Traethodydd, cyfrol CXXXII, rhif 563, Ebrill 1977, 90-108. Mae’r testun cyfan, ynghyd â chyfieithiad Ffrangeg, i’w gael yn Trois Poèmes en Moyen Breton, gan Roparz Hemon (Dublin, 1962).

Yn ei erthygl, tyn Bobi Jones sylw at y tebygrwydd rhwng cynnwys ac arddull ‘Buhez Mab-den’ a’r math o ganu a gysylltir â Siôn Cent ‘a’r llinach o feirdd rhybuddiol a lliwgar fynwentaidd’ a geid yn Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill, yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg ac ymlaen i'r unfed ganrif ar bymtheg. (t.102) Fe gofir bod Siôn Cent, yn ei gywydd ‘I Wagedd ac Oferedd y Byd’, yn rhybuddio mai

Pruddlawn yw’r corff priddlyd,
Pregeth, oer o beth, yw’r byd.

Mae’r cywydd yn pwysleisio byrhoedledd dyn a breuder pob dim a all ymddengys iddo’n gadarn ac yn destun balchder:

A’r neuadd goed newydd gau,
A’r plasoedd, a’r palisau?
Diddim ydyw o dyddyn
Ond saith droedfedd, diwedd dyn.
Y corff a fu’n y porffor,
Mae mewn cist ym min y côr.

Mae 59 o benillion chwe llinell yr un yn ‘Buhez Mab-den’, a dau bennill clo pedair llinell yr un. Mae’n gerdd hardd iawn am fod defnydd o odlau mewnol a therfynol drwyddi. Math o gynghanedd lusg sydd yma, datblygiad cyfochrog â chynghanedd y Gymraeg.

Ceir cyfieithiad o ddarn o’r gerdd gan Bobi Jones, a rhoddir yma gynnig arall ar gyfieithu pedwar pennill. Cyfeirir yn y pennill olaf a dyfynnir yma at thema Dawns yr Angau. Nid oes modd i neb gamddeall y wers – mae’r mawrion a’r cyffredin i gyd yn wynebu’r un diwedd diurddas a digysur.

Gan fod odlau mor ganolog i arddull y gerdd, afraid dweud bod cyfaredd y gwaith yn cael ei golli wrth gyfieithu yn llythrennol fel hyn:

Wedi dy fri a’th ofera,
Dy wisgoedd a’th rodresa,
Daw’r Angau, ar frys,
Pa gydia ynddo’r awydd i’th ladd yn gelain,
Gan beri i’th wedd fod yn erchyll,
Ac yn alaethus am byth.

Pan fydd dy gnawd yn gelain, yn oer,
Nid oes câr ar y ddaear, bid sicr,
Wir, na’r un estron ychwaith,
Na’th deulu, na’th wraig,
Ni waeth pa mor fawr y’th gerid,
A ddymunai dy weld mwy.

Bonedd a gwreng, yn yr un fynwent:
Tebyg i’w gilydd ydynt i’w gweld,
Ac nid oes neb, er manyled fai,
Drwy athroniaeth, drwy wyddoniaeth
Neu drwy bwyll, a wahaniaethai rhyngddynt,
Nac er craffed, a’u mawrygai.
........................................

Heb watwar, mae’r Angau, arweinydd y dawns,
Yn oer iawn ei wynepryd.
Er rhwydded dy huodledd,
Mae Marwolaeth oer, yn ddiau, gyda thi,
Er mor llac (?)ffrwyn dy ieuenctid,
Ni adawa iti fynd yn bell.

Addasiad o ddarn a gyhoeddwyd yn Breizh-Llydaw, rhifyn 50 (Chwefror, 2009), XXII-XXIV.

(Ôl-nodyn: Syrthiais innau i fagl 'y ffliw moch' drwy ysgrifennu 'y Ddawns Angau' yn y lle cyntaf. 'Dawns yr Angau' a geir yn Geiriadur Prifysgol Cymru, a dyna sydd yn gywir. Teitl llyfr Ambrose Bebb, Y Ddawns Angau, a wnaeth fy nghamarwain.)


No comments: