24/05/2009

O dan y môr a'i donnau...

Yn y llyfr Aderyn y Gwirionedd a Chwedlau eraill o Lydaw, gan J E Caerwyn Williams (Dinbych [1959]), ceir cyfieithiad o dair chwedl draddodiadol o Lydaw, sef Aderyn y Gwirionedd (Labous ar wirionez), Y Ceiliog Aur, Yr Iâr Arian a’r Ddeilen o’r Llawryf sy’n Canu (Ar c’hilhog aour, ar yar arc’hant hag an delienn eus al lore a gan), a Gwallt Gosod y Brenin Ffortunatus (Barvouskenn ar roue Fortunatus). Mae’r chwedlau wedi eu tynnu o’r gyfrol Labous ar wirionez ha marvailhoù all, gan Troud (Troude) ha Milin, a olygwyd ac a gyhoeddwyd ym 1950 gan Roparz Hemon (Skridoù Breizh). Argraffwyd y straeon gyntaf yn y llyfr Ar Marvailler brezounek pe marvaillou brezounek (Brest, [1870]), gan Troud a Milin.

Mewn gwirionedd, yn y llyfr gan Hemon ceir hefyd bedair chwedl arall na chawsant eu cyfieithu i’r Gymraeg, sef Yann e vazh-houarn (Yann â’i ffon haearn), Ar c’horf hep ene (Y corff heb enaid), Kristof, ac An Diaoul o tont da Vrest (Y Diafol yn dod i Frest). Yma, rhoddir cyfieithiad o chwedl Kristof, hanes am dir a lyncwyd gan y môr fel yn achos Cantre'r Gwaelod yng Nghymru.

Yn 2007, pan ymwelodd Herve ar Bihan, o Brifysgol Roazhon 2, ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, rhoddodd sgwrs i fyfyrwyr y modiwl llên gwerin ar chwedlau sy’n sôn am y môr yn goresgyn y tir, a rhoddodd sylw arbennig i chwedl Kristof.

Fel rhagymadrodd, rhoddir yma rai o sylwadau Herve ar Bihan ar y thema.

Y Trefi a Foddwyd

Mae thema’r trefi a foddwyd yn gyffredin i holl ddiwylliannau arfordir Ewrop, ac yn enwedig i’r rhai sydd ar lannau Môr Iwerydd. Ymddengys fod y thema honno yn dilyn traddodiad fod lefel y môr wedi codi, yn gyflym, gyflym rhwng 10,000 a 5,000 C.C., ac yn llawer arafach o’r flwyddyn 5,000 tan y cyfnod Cristionogol. Bu newid yn lefel y môr yn sgil y dadmer a fu pan ddaeth yr Oes Rew ddiwethaf i ben (Fleuriot 1981). Mae tystiolaeth amlwg i’r newid hwn mewn ambell fan; yn y Mor-Bihan, er enghraifft, mae cromlech Ynys Er Lannic yn aros o dan y môr ar hyd yr amser, hyd yn oed pan fo’n drai.

Yn Gymraeg mae’r thema hon i’w chael yn Boddi Maes Gwyddneu, yn Llyfr Du Caerfyrddin (gweler hor Yezh, 223, diskaramzer 2000, tt. 9-15), ac yn Llydaweg yn y stori werin Kristof. Mae ffynonellau eraill y gellid eu hastudio, e.e. traddodiad y baled Llydaweg ‘gwerz Kêr-Iz’, gan Emile Souvestre, a thraddodiad y ddrama ‘An buhez Sant Gwenôlé Abat ar Kentaf eus a Lantevennec’ (Buchedd Sant Gwennole, Abad Cyntaf Landevenneg), a geir mewn llawysgrif gan ar Pelleter (Le Pelletier). Mae darnau byrion eraill am Gêr-Iz yn La Légende de la mort en Basse-Bretagne (
1893), gan Anatol ar Braz (Anatole Le Braz), ac mewn ambell chwedl a gasglwyd gan Fañch an Uhel (Luzel), yn ‘Ar Jeant Kolevran’ (Y Cawr Kolevran), er enghraifft. Ceir cyfeiriad eto at y môr yn boddi’r tir yn Branwen a cheir thema debyg yn Iwerddon yn Aided Eochaid Mac Maireda (Marwolaeth Eochaid Mac Maireda) (Loth, 1903).

Mae gan Foddi Maes Gwyddneu a chwedl Kêr-Iz amyw bethau yn gyffredin. Ceir yn y naill a’r llall mai merch sy’n gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd, ceir sôn am fföedigaeth ar frys ar gefn march o flaen y môr, ac yn debyg i Seithennin, ystyrir Kristof yn wan ei feddwl.

Chwedl Kristof *

Dal pysgodyn

Ers talwm, ni wn faint o gannoedd o flynyddoedd yn ôl, nid nepell o Douarnenez, ’roedd hen wraig weddw yn byw. Dim ond un mab a oedd ganddi, a’i enw ef oedd Kristof. Ceisiai ei fam ei wella oddi wrth ei ddiogi, oherwydd ni wnaeth erioed waith corfforol, heblaw mynd, o bryd i’w gilydd, i hel rhyw dameidiau o goed tân, fel y gwnâi ei fam. Ei esgus oedd bod pawb yn dweud ei fod yn hurtyn, a’i fod felly er pan oedd yn fach. Nid oedd corff y bachgen hwn, ac yntau’n rhyw un ar bymtheg oed, erioed wedi cael ei flino gan waith caled. Beunydd, pan godai, y cyntaf peth a wnâi fyddai rhedeg i lan y môr â ffon grwca a oedd ganddo, ac â hon byddai’n taflu cerrig bychain i mewn i’r môr.

Ryw ddiwrnod, dywedodd ei fam wrtho:
‘Os hoffet ti fynd i hel coed tân imi heddiw, gwna’ i grempogau iti â’r blawd a ges i ddoe yn elusen gan y bobl dda.’
‘’Does dim eisiau bwyd arna’ i, Mam,’ atebodd Kristof.

Ac i ffwrdd ag ef i’r glannau â’i ffon gydag ef, yn ôl ei arfer. Trai oedd hi, a dyma Gristof yn mynd tuag at y môr. Mae’n cerdded yn bell i lawr y traeth hyd nes cyrraedd pyllaid o ddŵr môr. Yno, dyma chwarae a thaflu cerrig yn y dŵr, gan chwerthin a chan ganu bob yn ail.

Wedi bod felly’n chwarae am beth amser, dyma Gristof yn cydio mewn carreg fach glaerwen ac yn dweud:
‘Dyma garreg a gaiff ei sglentio ar draws wyneb dŵr y pwll ’na, toc.’
Dyma ef yn ei thaflu â’i ffon, yn fedrus dros ben, gan ei fod wedi dod yn gampwr ar y gêm hon. Llithrodd y garreg fel llysywen wen ar draws y dŵr.
Edrychodd Kristof arni, gan chwerthin nerth ei ben, ac wrth wneud, mae’n gweld pysgodyn bychan yn llamu ac yn nofio, hyd y gall, ar ôl y garreg.
‘Dere ’n awr’, meddai Kristof. ‘Gynnau fach ’roedd Mam yn dweud y buasai’n gwneud crempogau imi, petaswn i’n fodlon hel cynnud iddi. Nid crempogau a gaf i ginio, ond chi, bysgodyn bach. Caiff Kristof bysgod, neu bydd yn flin iawn!’

Dyma Gristof, wedyn, yn torchi coesau ei drowser, yn mynd i mewn i’r pwll ac yn rhedeg ar ôl y pysgodyn. Dyma hwnnw’n llithro o dan y naill garreg a’r llall, ond ni chafodd eiliad o lonydd gan Gristof a’i ffon hyd nes ei fod wedi ei ddal.

‘Wel ’te, fy mhysgodyn bach i, oni ddywedais i wrthoch chi y byddwn i’n eich dal chi?’
‘Do wir, ac ’rwyt wedi fy nal,’ atebodd y pysgodyn. ‘Eto i gyd, byddai’n well iti fy ngollwng yn rhydd yn y môr na’m bwyta, oherwydd ’does fawr o gig arna’ i. Gollwng fi yn y môr yn y man a fynni, a rhodda’ iti bob dim sydd arnat ei eisiau. Gen i fe gei bob dim ’rwyt ti’n ei geisio.’

Dyma Gristof, yn syfrdan o glywed y pysgodyn, a heb bendroni dim, yn ei daflu ar unwaith yn y dŵr ac yn aros i chwarae am ysbaid arall. Wrth chwarae, dyma’r crwtyn yn dechrau teimlo chwant bwyd, ac yn meddwl am grempogau ei fam, ac am y coed tân y dywedwyd wrtho am ei gasglu.

‘Edrych, edrych,’ meddai Kristof wrtho ei hun, ‘os yw’r hyn a ddywedodd y pysgodyn bach wrtha’ i yn wir, caiff fy mam goed tân i bara am gyfnod go faith.’

Derwen Kêr-Iz

A dyma Gristof yn rhedeg oddi yno, nerth ei draed, tuag at Gêr-Iz, a oedd yn ddigon agos. Pan gyrhaeddodd, ’roedd y môr yn dal ar drai yn bell, a phob man yn sych o amgylch y dref. ’Roedd Kristof wedi mynd yno i gael hyd i glamp o dderwen a oedd, yn ôl y sôn, yng nghanol y môr, gyferbyn â Chêr-Iz, ni wyddys faint o ganrifoedd yn ôl. Ni lwyddodd neb erioed i ddarganfod y dderwen fawr honno, ond amdani hi y byddai pawb yn sôn byth a beunydd. Honno, meddai’r gwybodusion, fu’r peth cyntaf yng Nghêr-Iz, ac i bob pwrpas yn sylfaen i’r dref fawr honno.

‘Drwy rym fy mhysgodyn bach,’ meddai Kristof, ‘deled y goeden honno i’r fan hon, allan o’r môr!’

Cyn i Gristof orffen dweud y geiriau hynny, gwelodd fôn a changhennau, a’r cwbl o’r goeden honno, yn codi ar y môr fel llong, yn arnofio, ac yn dod tuag ato ar y tir sych.

‘’Roedd y pysgodyn yn dweud y gwir. Yn wahanol i bobl, ’dyw e ddim yn gelwyddog. ’Nawr fe gaiff fy mam goed tân i wneud crempogau!’

’Roedd Kristof yn cerdded o amgylch y goeden ac yn edrych arni yn syn am ei bod hi mor fawr. Yn lle dail, wrth ei changhennau a’i gwreiddiau, ’roedd wystrys, cregyn gleision, llygaid meheryn a chocos.

‘’Does dim gwahaniaeth,’ meddai. ‘’Dyw hi ddim yn ddigon ei bod wedi dod allan o’r môr; rhaid iddi hefyd fynd i dŷ fy mam. Cer â hi, fy mhysgodyn bychan,’ meddai Kristof, ‘a minnau â’m coesau ar led arni, fel ar gefn march. Boed iddi fod o dana’ i wrth deithio drwy strydoedd Kêr-Iz, a boed i bawb, gan gynnwys y brenin Grallon, ddod i edrych arna’ i’n mynd heibio.’

Rhag blaen fe’i cafodd Kristof ei hun ar y dderwen, a dyma honno’n cychwyn, er na wyddai sut. Aeth drwy strydoedd Kêr-Iz gan lanw’r lle, hyd at bennau’r tai. ’Roedd pawb yn ofidus wrth weld y fath beth.
‘Edrych! Edrych!’ meddent. ‘Mae Kristof ar glamp o dderwen, a hithau’n symud oddi tano, fel pe bai’n farch byw. ’Welwyd erioed y fath wyrth!’
Kristof! Kristof!’ meddai pawb, ‘saf yn llonydd am funud!’
Ond ’roedd Kristof, ar ei dderwen, yn dal i fynd, ac yn chwerthin wrth eu clywed.

Wedi cyrraedd y tu allan i lys y brenin Grallon, dyma’r brenin hefyd, wrth glywed y twrw, yn mynd i edrych. ’Roedd ei ferch Ahez yn ei ymyl.
‘Edrychwch, ’Nhad,’ meddai hi, ‘Kristof sy’n mynd heibio ar fonyn coeden. Mae’n chwarae bod ar gefn march, ’rwy’ i’n meddwl, ac mae ei ffon grwca yn ei law.’

‘Ie, wir,’ meddai Kristof. ‘Myfi sydd yma, foneddiges dlos; a thrwy rym fy mhysgodyn bach, gan eich bod chi’n fy ngwawdio i, boed ichi feichiogi yn awr!’

Wedi dweud hynny, dyma Gristof yn mynd oddi yno, ar gefn ei goeden, i dŷ ei fam. Taith fer i lawr y rhiw, a dyma ddweud wrthi am ddod i edrych arno.
‘Dyma fi wedi dod â choed tân, Mam, i wneud crempogau.’
‘Dewch ag e i mewn i’r tŷ,’ meddai hithau.
‘Mawredd!’ meddai Kristof; ‘digon hawdd ichi ddweud hynny, Mam! Dewch i weld y fath lwyth o goed tân sydd y tu allan!’
Dyma’r fam yn dilyn ei mab, ac yn sefyll yn syfrdan o flaen y dderwen aruthrol o fawr. ’Roedd yn chwe gwaith yn uwch na bwthyn y wraig weddw.
‘Pwy ’ddaeth â’r goeden hon yma?’ gofynnodd. ‘Nid ti, ’does bosibl?’
‘Ie, fi a ddaeth â hi, Mam, ac ymhen ychydig, cewch chi weld, caiff ei hollti a’i phentyrru yno o flaen y tŷ.’

Gwnaethpwyd yr hyn a ddywedodd Kristof heb oedi; dim ond gofyn hynny gan ei bysgodyn bach a oedd raid. Wedi gwneud y das gynnud, ’roedd dair gwaith yn lletach na bwthyn y wraig weddw dlawd, a thair gwaith yn dalach.

‘Dyna chi,’ meddai Kristof, ‘’nawr bydd gennych chi ddigon o goed tân i wneud faint a fynnoch o grempogau.’

Gwnaethpwyd y crempogau, felly, a’u bwyta, a dyma Gristof, wedyn, yn mynd yn ôl i’r glannau i chwarae â’i ffon grwca.

Er bod pobl yn synio amdano fel gwirionyn, nid un dwl o gwbl oedd Kristof mewn gwirionedd, fel y cewch weld. Bellach, ac yntau heb angen mynd i hel coed tân, dyma Gristof yn chwarae wrth ei fodd, wedi llwyr anghofio am ei bysgodyn bychan. Ni feddyliodd erioed ofyn i hwnnw roi iddo arian, na bwyd i’w fam ac iddo ef ei hun. ’Roedd yn ymddwyn yn union fel o’r blaen, a thra byddai ei ffon grwca ganddo, i’w helpu, neu i’w ddifyrru, ni feddyliai am ddim arall.

Ymhen rhyw bedwar neu bum mis, aeth si drwy’r wlad fod merch y brenin Grallon yn feichiog. Dim ond am hynny yr oedd pawb yn sôn, ac yn wir, ’roedd y dywysoges Ahez yn mynd yn dewach, dewach beunydd. Ymhen fawr o dro, aeth y si ar led a chyrraedd y brenin Grallon. I ddechrau, ni allai hwnnw gredu’r hyn a ddywedai pawb.

‘Fu erioed yr un gŵr, ar wahân i mi, ar gyfyl Ahez. Er pan gafodd ei geni, ar hyd yr amser ’rwy’ i’n gofalu ei chadw rhag cwrdd â neb a allai ei niweidio, a pha beth bynnag, mae hi’n rhy gall ac yn rhy dduwiol, ac mae ganddi ormod o gariad ata’ i wneud pechod mor fawr, i wneud dim a fyddai’n peri’r fath loes imi. Nage, nage, celwydd yw hynny, a dim ond rhyw bobl wenwynllyd sy’n dweud y fath beth.’

O ddydd i ddydd, fodd bynnag, ’roedd dillad y dywysoges yn mynd yn dynnach amdani, a phob dydd ’roedd mwyfwy o sôn amdani - cymaint fel y dywedodd y brenin ei bod yn rhaid iddo gael gweld drosto ei hun. Dyma ef yn mynd at ei ferch, ac yn dweud wrthi beth a ddywedai pawb amdani.
‘Mawredd, ’Nhad!’ meddai hithau. ‘’Rwy’ i’n synnu fy hun at yr hyn sy’n digwydd, oherwydd mae fy mol yn mynd yn fwy bob dydd, ac ’alla’ i ddim egluro beth sy’n bod arna’ i.’

’Roedd Grallon yn caru ei ferch yn fawr, ac fe’i gadawodd eto am gyfnod i weld beth a ddigwyddai. ’Roedd yn ddrwgdybus, er hynny, ac yn dweud wrtho ei hun:
‘’Dyw hi ddim am gyfadde’r gwirionedd imi, na dweud pwy sy’n gyfrifol. Cawn weld, pan ddaw ei hamser i esgor.’
Daeth ei thymp, a ganwyd mab iddi. Yna, dywedodd Grallon wrth ei ferch:
‘Bellach, mae’n ofer iti ei wadu; mae’r si wedi dod yn wir. Dyma ti wedi esgor, ac wedi rhoi genedigaeth i fab bach. Dywed, ’nawr, pwy yw ei dad.’
‘Petawn i’n gwybod, ’Nhad, fyddai hi ddim yn anodd imi ddweud wrthoch chi; ond, y gwaetha’ yw nad wy’ i’n gwybod, yn fwy nag yr ydych chi, sut y digwyddodd hyn.’

Wylai Ahez wrth siarad â’i thad fel hyn. Heb yngan gair, aeth yntau oddi yno yn bryderus, gan grafu ei ben.
‘Efallai mai gwir yw’r hyn y mae fy merch yn ei ddweud wrtha’ i,’ meddai wrtho ei hun. ‘Fe alla’ i gredu ei fod, oherwydd fu i’r un dyn erioed roi ei droed yn ei siambr. Eto i gyd, os galla’ i, rhaid imi wybod, pwy yw tad y plentyn.’


Ennill Ahez yn Wraig

Wedyn, anfonodd Grallon neges at hen dderwydd, a oedd tua deuddeng milltir i ffwrdd, yn gofyn iddo ddod ato, gorau po gyntaf. ’Roedd y derwydd hwnnw’n byw mewn coedwig fawr, ac ’roedd wedi ymadael â Grallon ers tipyn o amser, er mai ganddo ef y cawsai ei addysgu a’i hyfforddi. Offeiriad mawr y coeg-dduwiau oedd hwn, ac yn ôl y sôn, nid oedd dim na wyddai, nac am y gorffennol nac am y dyfodol.

A’r hen dderwydd wedi cyrraedd, dyma Grallon yn dweud wrtho beth a oedd yn bod:
‘Beichiogodd fy merch, a dau ddiwrnod yn ôl ganwyd iddi blentyn, un, meddai, na ŵyr pwy yw ei dad. ’Rwy’ i fy hun wedi gofyn iddi, a phob tro mae wedi dweud na ŵyr sut y digwyddodd. Eto i gyd, ddylai’r plentyn hwnnw ddim aros heb dad, oherwydd mae’n rhaid bod ganddo dad.’
‘Digon gwir,’ meddai’r hen dderwydd. ‘’All plentyn ddim fod heb dad, na dim byd heb grëwr. Gwrandewch, frenin, os ydych chi am wybod pwy yw tad mab eich merch. Defnyddiwch edefyn llin gwyn i glymu eich coron rhwng dau bostyn pren ar ganol y sgwâr. Yna, ar ddydd cyntaf y lleuad newydd, trefnwch fod pawb sydd yn y dre’, ac yn y cyffiniau, yn cerdded o dan y goron. Rhaid peidio ag eithrio neb, cofiwch, rhag ofn mai hwnnw yw tad y plentyn. Bydd yn hawdd ichi adnabod y tad, gan mai ar ei ben ef y bydd y goron yn syrthio, cyn gynted ag y bydd yn cerdded o dani. Dilynwch fy nghyfarwyddiadau yn fanwl, a gwnewch bob dim a ddywedais.’

Wedi hynny oll, dychwelodd yr hen dderwydd i’w goedwig, a chlywyd ddim sôn amdano byth wedyn. Dyma Grallon, heb oedi dim, yn gorchymyn datgan i bobl y dref ac i bawb yn y cyffiniau y dylent ymgynnull ar sgwâr Kêr-Iz ar y dydd a’r dydd. Gofynnai pawb i’w gilydd:
‘Pa newydd sydd, ac am beth?’
Pan glywodd Kristof y newydd gan ei fam, dywedodd:
‘Os galwyd pawb i fynd i Gêr-Iz, fe af innau i wybod beth sy’n digwydd.’

Dyma Gristof yn mynd, ond braidd yn hwyr er hynny. Pan gyrhaeddodd, fe’i synnwyd wrth weld coron y brenin ynghrog. ’Roedd llawer wedi cerdded o dani, a hithau’n dal yn ei lle. Y bobl fawr, rhai a chanddynt swyddi yn llys y brenin, a aeth gyntaf, pobl y dref wedyn, ac yn olaf y gwladwyr a’r tlodion.

‘Iawn,’ meddai Kristof, ‘gan fod pawb yn mynd, mae’n siŵr y caf innau dro.’
A dyma ef yn nesáu. ’Roedd ar fin cerdded o dan y goron, pan gydiodd un o filwyr y brenin yn ei fraich:
‘I ble’r wyt ti’n mynd, yr hurtyn? ’Does dim o’th eisiau di yma!’
‘Gadewch e,’ meddai’r brenin, a welsai Kristof yn cael ei yrru i ffwrdd. ‘’Dwy’ i ddim am gadw neb rhag cerdded o dan fy nghoron heddiw.’

A dyma Gristof yn mynd yn ei flaen, felly. Cyn gynted ag yr aeth o dani, syrthiodd coron y brenin Grallon ar ei ben. Syfrdanwyd pawb, yn fwy nag erioed o’r blaen.

‘Kristof yw’ e,’ meddai llawer. ‘Kristof yw tad mab Ahez.’
‘Nage, nage,’ meddai eraill, a’r brenin gyda hwy. ‘Chafodd gwirionyn fel hwnnw erioed dorri gair ag Ahez. A fuasai tywysoges fel hi byth yn caru gyda rhyw hurtyn truan fel Kristof? Na fuasai, wir; rhaid cael gweld eto beth yw’r gwir.’ Clymwyd y goron drachefn, a gorchmynnwyd i Gristof gerdded o dani. Yr eiliad y gwnaeth, dyma’r edefyn yn torri a’r goron yn syrthio eilwaith ar ei ben.

‘Bellach,’ meddai pawb, ‘all neb wadu nad Kristof yw tad mab bychan Ahez; efô yw’r tad.’

Cydiwyd yng Nghristof ac aethpwyd ag ef i balas y brenin, at y dywysoges. Yna, dywedodd Grallon wrth Ahez:
‘Dyma ni wedi cael hyd i dad dy fab.’
‘Hwnnw, y nerco hwnnw,’ meddai’r dywysoges. ‘Nid hwnnw yw tad fy mab i. Mae’n wir fy mod i’n ei ’nabod, ond ches erioed gyfathrach ag e, nac â’r un dyn arall ychwaith!’
‘Beth bynnag a ddywedi,’ meddai’r brenin, ‘ar ben hwn y syrthiodd fy nghoron ddwywaith. Ag e, felly, y bydd yn rhaid iti briodi.’
‘Byddai’n llawn cystal gen i farw,’ meddai Ahez.
‘P’un a fyddi farw neu beidio, fe wnei di briodi, ac yn ddi-oed!’

Gwnaethpwyd y trefniadau, a phriodwyd Kristof ac Ahez.

Dial y Brenin a’r Ddihangfa

Ymhen amser ar ôl hynny, wrth weld natur ei fab-yng-nghyfraith, ac er mwyn peidio â gorfod ei ddioddef bellach, na gorfod wynebu pechod ei ferch, gorchmynnodd Grallon wneud cell bren. Pan oedd yn barod, dyma Ahez yn rhoi ei mab bach, a Christof, ynddi, ac yna fe’u bwriwyd hwy ill tri i’r môr i foddi, neu i ba dynged bynnag a gâi ei dewis iddynt gan Dduw. Dim ond wylo a wnâi Ahez, gan ddweud mai marw a fyddai’n rhaid. Dyma Gristof, fodd bynnag, ac yntau wedi anghofio am ei bysgodyn tan hynny, yn dweud wrth y dywysoges:
‘Peidiwch â cholli ffydd. ’Dyw hi ddim ar ben arnoch chi, nac arna’ i ychwaith.’
Wedyn, dyma ef yn dweud:
‘Fy mhysgodyn bychan, boed i ni, yn y gell hon, fod ar y tir sych, ar yr ynys a fydd yn codi nid nepell oddi yma.’

Yn y modd hwnnw, ar unwaith, dyma hwy ar ynys.
‘’Rwy’ i’n meddwl,’ meddai Ahez, ‘nad yw’r gell yn symud mwyach.’
‘Nac ydy, wir,’ meddai Kristof. ‘’Dyw hi ddim yn symud. Mae ar ynys.’
‘Boed i’r gell hon droi’n lludw, fy mhysgodyn!’

Ar hynny, gwelwyd y gell fel pe bai’n toddi, a dyma hwy ill tri yn rhydd, ac Ahez yn syfrdan, fel y gellwch gredu, wrth weld yr hyn a oedd wedi digwydd.

Wedi iddynt fynd ar yr ynys, a gweld nad oedd yno na thŷ na dim arall, dywedodd Ahez:
‘Yma yn yr awyr agored byddwn ni farw o newyn!’
‘Na fyddwn,’ meddai yntau, ‘cyn pen nos, cawn ni ddigon i’w fwyta, a thŷ i fyw ynddo.’
‘Cyfoded yma, rhag blaen,’ meddai Kristof, ‘blas harddach na llys y brenin Grallon yng Nghêr-Iz, ac ynddo ddigon i’w fwyta, a phobl i weini ar Ahez, ac o amgylch y plas goed a gerddi o’r hardda’. Bydded hefyd bont hardd oddi yma i Gêr-Iz.’

A gwnaethpwyd pob dim a ofynnodd Kristof. Hwyrddydd oedd hi, a chan fod eisiau bwyd ar Ahez, bwytaodd ac yfodd ac aeth i gysgu, ac nid ar wellt ychwaith. Aeth Kristof hefyd i gysgu, wedi iddo fynd am dro drwy ei ynys.

Herio Grallon

Drannoeth, y cyntaf peth a ddigwyddodd i Grallon oedd clywed un o swyddogion ei lys yn dod ato ac yn dweud:
‘Dewch, frenin, i edrych allan. Draw acw, ers ddoe, cododd pont sy’n rhyfeddod i bawb. Fu erioed bont mor hardd, a’r peth rhyfedda’ yw gweld pen arall y bont ar ynys, un na ŵyr neb ei henw, a llys hardd nad oes modd inni ei weld yn iawn gan fod yr haul yn disgleirio mor danbaid arno.’

Ni fu Grallon yn hir cyn mynd i edrych, a phan welodd beth a oedd yno, anfonodd un o’i wŷr i gael gwybod pwy a oedd yn byw yn y llys. Dyma hwnnw, wedi cyrraedd yr ynys, yn gweld y plas hardd, yn mynd i mewn ac yn gweld Kristof, â’i ffon grwca yn ei law. Dywedodd negesydd y brenin wrth Gristof:
‘Chi, mi greda’ i, yw meistr yr ynys hon?’
‘Ie, ie,’ meddai Kristof, ‘’rwy’ i’n credu mai fi yw’r meistr yma, a ’dydych chi na neb arall yn gallu herio f’awdurdod yma.’
‘Nid i wneud hynny y des i,’ meddai’r negesydd. ‘Des i yma i ddweud wrthoch chi am fynd i Gêr-Iz, at y brenin Grallon.’
‘Mynd at y brenin Grallon?’ meddai Kristof. ‘Os oes arno f’angen, caiff e ddod yma ei hun. Chymera’ i’r un cam tuag ato fe. Ewch yn eich ôl, felly, a dywedwch eich neges.’

Aeth cennad Grallon oddi yno, a dywedodd yr hyn a welsai ac a ddywedwyd wrtho gan Gristof.
‘Beth,’ meddai’r brenin, ‘Kristof hurt sydd yno yn y llys hardd hwnnw? Mae wedi mynd braidd yn falch, wir. Maes o law, fe gaf weld sut ŵr ydy e.’

A dyma Grallon yn gorchymyn i filwyr fynd i’r ynys i ddod â Christof ato gerfydd ei glustiau. ’ Roedd Kristof ar wyliadwriaeth rhagddynt. Pan y’u gwelodd yn dod, aeth i edrych arnynt o’i ffenestr, a phan oeddent wedi cyrraedd, gofynnodd:
‘Henffych, bobl, pa newydd sydd gan Grallon, yng Nghêr-Iz?’
‘Yr hyn sy’n newydd yw ei bod yn rhaid i chi ddod gyda ni, neu os na ddewch gyda ni yn y man, gafaelwn ni ynoch chi gerfydd eich gwar.’
‘Hen weilch drwg ydych chi. ’Rwy’ i’n dweud wrthoch chi, nid yn hawdd y gwnewch hynny.’

Dyma hwythau’n ceisio cael ffordd i ddal Kristof. Trefnodd ef, fodd bynnag, i fintai o filwyr eraill ddod yno i ymladd, a chawsant hwy hwyl ar faeddu gwŷr y brenin yn rhacs a’u lladd. Un yn unig a oedd ar ôl i fynd â’r newydd i Gêr-Iz. Pan glywodd Grallon beth a oedd wedi digwydd, aeth yn gynddeiriog.

‘Beth,’ meddai, ‘hen wirionyn fel hwnnw’n fy herio i? Deled mil o wŷr yma ar unwaith, i fynd ar ôl Kristof, ac i ddod ag e ata’ i, yn fyw neu’n farw!’

Gan fod Kristof ar wyliadwriaeth o hyd, fe’u gwelodd yn dod:
‘Fy mhysgodyn bach,’ meddai, ‘dere ag ymladdwyr eraill i chwalu milwyr Grallon. Mae arna’ i awydd dod â thipyn o synnwyr i ben y brenin ynfyd hwnnw. Mae’n siŵr ei fod yn meddwl y caiff ddweud wrtha’ i am wneud yr hyn a fynno. Cawn weld pa un ohonon ni fydd y meistr.’

A dyma ymladdwyr yn dod i’r fan honno, at Gristof. Pan gyrhaeddodd milwyr Grallon, dechreuodd yr helynt. Cafodd y rheini grasfa, hyd nes eu bod yno ar eu hyd-gyhyd. Bu farw pawb ond un ohonynt.
‘Wel,’ meddai Kristof, ‘a ydych chi’n elwach o hynny, filwyr? Dywedais wrthoch chi, ond ’doeddech chi ddim am ufuddhau imi; gwaetha’r modd i chi!’

Pan glywodd am yr helynt diweddaraf, dyma’r brenin Grallon yn dweud:
‘Yn hytrach na chael fy nhrechu gan yr hurtyn hwnnw, ’rwy’ i am i bob milwr sydd gen i ar ôl fynd i’w gyrchu ata’ i.’

Rhoddwyd y milwyr o dan arweiniad gwŷr pwysicaf y llys, ac aethant heb oedi dim.
‘Dewch ’te,’ meddai Kristof, gan edrych arnynt. ‘Fydd hi ddim elwach i chi nag yr oedd hi’r lleill. Cwbl ofer fydd ymgais eich meistr. Bydd e ei hun yn dod ata’ i, hyd yn oed os nad dyna ei ddymuniad. O’m rhan i, wna’ i ddim gadael f’ynys.’

Lladdwyd holl filwyr Grallon eto, a dim ond un a ddychwelodd i ddweud wrth y brenin na allai byth drechu Kristof, ac y dylai ef ei hun fynd ato os oedd am siarad ag ef.

‘Gan ei bod yn rhaid imi fynd, mi af i,’ meddai’r brenin. ‘Rhaid imi weld beth yw bwriad Kristof.’


Grallon yn Llys Kristof

Pan gyrhaeddodd y brenin Grallon a gwŷr ei lys yr ynys, fe’u syfrdanwyd, yn fwy nag erioed, wrth weld hardded oedd y plas. Cafodd y brenin hyd i Gristof, a dyma hwnnw, gan afael yn ei ffon grwca, a heb dynnu ei gapan oddi ar ei ben, yn dweud wrtho:
‘Aha, daethoch ataf, felly, frenin! Gwnaethoch yn iawn, oherwydd ’does mo’ch angen chi arna’ i, a fuaswn i byth wedi mynd i’ch cartref chi, gan ichi fy ngyrru oddi yno.’
‘Paham,’ meddai’r brenin, ‘’rwyt ti’n lladd fy ngwŷr fel hyn?’
‘Lladd eich gwŷr?’ meddai Kristof. ‘Wnes i ddim niwed yn y byd iddyn nhw. Hepian maen nhw yn y fan honno, a phetasen nhw wedi aros yn llonydd ac ymddwyn yn heddychlon, fuasai dim drwg wedi dod i’w rhan. Clywch, frenin, thâl hi ddim i neb, nid i chi nac i eraill, geisio codi helynt yma; myfi yw’r meistr, ac wna’ i ddim ildio i neb. Eto i gyd, os mynnwch, fe af i nôl eich merch, fel y gallwch chi fynd gyda hi am dro drwy’r gerddi a’r coedydd sydd draw acw, wrth ichi aros am eich cinio, oherwydd ’rwy’ i’n eich gwahodd i giniawa yn fy nghartre’.’
‘A oes gennych chi ddigon ar ein cyfer ni?’ holodd y brenin.
‘Mae yma hen ddigon, ac mae’n debyg y bydd digon wedi ichi orffen, diolch byth.’
‘O’r gorau,’ meddai’r brenin, ‘fe wna’ i giniawa yma, a’m gwŷr gyda mi.’

Dyma Gristof yn mynd adref ac yn paratoi gwledd, un fel na welir ei thebyg yn aml, hyd yn oed yn nhai brenhinoedd. Ni welid ond aur ac arian ar y bwrdd, ac i wasanaethu daeth llaweroedd o forynion, a’u dillad i gyd yn glaerwyn. Wedi ei dro drwy’r coedydd, daeth Grallon i’r plas, ac aeth ef a’i wŷr at y bwrdd. ’Roedd gweld cynifer o bethau hardd yn peri loes calon iddynt. Dyma Grallon yn gofyn i’w ferch sut y gallai fod cymaint o gyfoeth gan Gristof.

‘Alla’ i ddim dweud wrthoch chi, ’Nhad,’ meddai, ‘oblegid wn i ddim fy hun. ’Rwy’ i’n credu bod Kristof yn cael pob dim y bydd yn gofyn amdano. Mae yma lieiniau bwrdd gwynion, cyllyll a ffyrc arian, a chwpanau aur ac arian i yfed y gwin gorau. Mae yma ddigon o fwyd i’w fwyta hefyd, ond phrynwyd mo’r pethau hynny erioed gan Gristof. Fe’u cafodd nhw, er hynny, ond sut? Wn i ddim, a wyddoch chi ddim ychwaith.’
‘’Does dim gwahaniaeth sut,’ meddai’r brenin. ‘Mae eisiau bwyd arnon ni, ac mae yma bethau i’w bwyta. Dechreuwn ar y wledd!’

Dyma Gristof yn ymofyn ei fam ac yn dweud:
‘’Nawr, Grallon, dewch at y bwrdd. Eisteddwch chi yn y fan hon, yn ymyl fy mam, oherwydd er mai gwraig i bysgotwr tlawd yw hi, fydd hi ddim yn gywilydd i chi fwyta gyda hi. Fuasai hi ddim yn weddus gadael fy mam i fwyta bwyd a gafodd yn elusen, a’i mab yn briod â merch y brenin.’

Er bod Grallon yn caru’r tlodion a’r rhai di-nod, buasai’n well o lawer ganddo fod yn bell oddi wrth yr hen wreigan. Ni fentrai yngan gair, er hynny, gan ei fod yn ofni Kristof yn anad dim. Eisteddodd hwnnw ym mhen uchaf y bwrdd, Ahez ar ei law dde, ei fam ar yr ochr chwith, a Grallon wedyn. Pan fydd eisiau bwyd ar bobl, a digon i’w fwyta, fydd pethau byth yn anodd. Dechreuodd Grallon a’r lleill ar eu pryd, a bwyta ac yfed faint a fynnent, a phan godwyd oddi wrth y bwrdd, dywedodd Kristof:
‘Os mynnwch chi, frenin, awn am dro drwy’r llys. Cawn ni weld a yw mor wag ac mor ddrafftiog ag ydyw’n fawr. “Gwell bwthyn llawn o fwyd na thŷ mawr drafftiog”, medden nhw.’

Nid rhyw hen blas oedd tŷ Kristof, coeliwch fi; ’roedd ynddo bedair siambr ar hugain, ac ym mhob ystafell bedair ffenestr yn wynebu’r pedwar gwynt. Yno, ni welid ond pentyrrau o aur ac o arian, a gorchuddion sidan, a lluniau hardd na welwyd erioed eu tebyg ym mhalas y brenin ei hun. ’ Roedd hwnnw’n gegrwth wrth gerdded drwy’r tŷ, a safai i syllu ar bob dim.

‘Wel,’ meddai Kristof, ‘ai fy nhŷ i ynteu eich un chi sydd hardda’, frenin?’
‘Dy un di,’ meddai’r brenin, ‘os ti biau fe mewn gwirionedd.’
‘’Dwy’ i ddim yn credu mai neb arall sy’n berchen arno, ac nid chi biau fe ychwaith. Diau eich bod chi’n meddwl y buaswn i wedi cael fy moddi, a’ch merch hefyd gyda mi, gan ichi orchymyn ein bwrw i mewn i’r môr. ’Rydych chi’n synnu, on’d ydych? Wel, gorau i gyd; bydd
hynny’n eich gwneud chi’n gallach.’


Ymadawiad Grallon a Boddi Kêr-Iz

Ac yntau wedi alaru ar eiriau ffraeth Kristof, dywedodd y brenin ei fod am ymadael.

‘Ewch pan fynnwch,’ meddai Kristof. ‘Gellwch ddychwelyd adre’ y ffordd y daethoch; eto i gyd, yn fy marn i, pan fydd dyn wedi bwyta ac wedi cael bwyd da, ’dyw hi ddim yn weddus iddo ddwyn oddi ar bobl y tŷ hwnnw.’
‘Pwy sy’n lleidr?’ holodd y brenin, gan deimlo’n ffyrnig o gas.
‘Wn i ddim mwy na chi pwy yw’r lleidr, ond fe garwn i wybod, er hynny.’
‘Cawn wybod,’ meddai’r brenin, ‘ac ar unwaith. Beth ’rwyt ti wedi ei golli, Kristof?’
‘Y gobled harddaf a oedd gen i, yr un a wnaethpwyd o un maen hardd yn unig. Gynnau ’roedd gennych chi pan oeddech chi’n yfed wrth y bwrdd.’
‘Rhaid gweld pwy aeth ag e.’

Gorchmynnodd Grallon archwilio pocedi ei ddilynwyr. Ofer fu chwilio ac ailchwilio, ni chafwyd hyd i’r un gobled.

‘Rhaid ei fod e gan rywun, beth bynnag,’ meddai Kristof. ‘Edrychwch, yn awr, yn eich pocedi chi, frenin!’
‘Chymerais i ddim yn y byd,’ meddai hwnnw. ‘Wyt ti’n credu, yr ynfytyn i ti, mai lleidr ydw i?’
‘’Dwy’ i ddim yn dweud mai lleidr ydych chi, ond mi greda’ i y byddai’n deg, gan i bawb gael ei chwilio, i chi gael yr un driniaeth.’
‘Os hynny yn unig sydd ei angen, rhoddwn derfyn ar yr helynt hwn.’
A dyma Grallon yn gwthio ei ddwylo i mewn i’w bocedi, ar y naill ochr a’r llall, ac yn tynnu’r gobled mawr allan â’i law dde.

‘’Nawr,’ meddai Kristof, gan ei wawdio, ‘pwy yw’r lleidr, ’te?’
‘Bydd pobl yn credu mai fi a wnaeth ddwyn y gobled,’ meddai’r brenin, ‘ond y gwir amdani yw nad fi a wnaeth ei roi yn fy mhoced.’
‘Ofer fydd ichi ei wadu, frenin,’ meddai Kristof. ‘Pwy a fyddai’n eich credu pe na bawn i’n dweud y gwirionedd? Gwir yw eich geiriau; nid chi a roddodd y gobled hwnnw yn eich poced. Aeth i mewn fel yr aeth y plentyn a aned iddi i mewn i fol eich merch.’

Am beth amser bu Grallon yn pendroni ynghylch hynny. Bu’n troi a throsi geiriau Kristof yn ei feddwl. Pan ddaeth ato ei hun, ’roedd yn llawen, a dywedodd:
‘Mae gennyt ti, Gristof, fwy o synnwyr ac o ddoethineb na phawb ohonon ni sydd yma, ac os hoffet ddod gyda mi i Gêr-Iz, ti a’th wraig, a’i mab, cei fod yn frenin ar fy ôl.’
‘Af i ddim,’ atebodd Kristof. ‘Ewch chi adre’ pan fynnwch, ond fe arhosa’ i yma, gan ei bod yn well gen i. Fydd eich tre’ chi, frenin, ddim yn para am amser maith mwyach, oherwydd ’rwy’ i wedi tynnu’r dderwen fawr a oedd yn cadw’r môr rhag llifo drosti gyda’r rhyferthwy nesa’. Peidiwch ag anghofio fy ngeiriau, frenin: o dan yr heli yr aiff Kêr-Iz.’

Digwyddodd yr hyn a ddywedodd Kristof wrth Grallon, ac oni bai am ei farch, buasai yntau wedi cael ei foddi, fel pobl Kêr-Iz. Am Gristof, ni fu sôn amdano oddi ar hynny, ac ni ŵyr neb i ble’r aeth gyda’r fam a’i mab.

Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn gyntaf yn Breizh / Llydaw , rhifyn 47 (Awst 2007), 23-32.

*Mae Kristof i'w ynganu 'Cristoff', a Grallon 'Gralon'

No comments: