Mae Jaime Mayor-Oreja, arweinydd y blaid geidwadol Sbaenaidd Partido Popular wedi dweud na ddylai Catalaneg, Basgeg a Galiseg fod yn ieithoedd swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd.
Canmolodd Mayor-Oreja ei hen dad-cu am wahardd defnyddio Basgeg yn ei gartref, gan ddweud nad oedd hynny’n rhwystr i’w dad-cu feistroli'r iaith honno a Sbaeneg a dod i'w siarad ‘mewn ffordd naturiol.’
Yr her i’r Basgiaid, i’r Catalaniaid ac i bobl Galisia, meddai, yw peidio â hyrwyddo ei hieithoedd eu hunain ar lefel yr Undeb Ewropeaidd. Dylent, yn hytrach, gefnogi’r Sbaeneg, gan anelu ei throi’n ail iaith yr Undeb.
Mae rhesymu’r gwelidydd hwn yn cyd-fynd â gwrthwynebiad cenedlaetholwyr Sbaenaidd i amrywiaeth ieithyddol o fewn gwladwriaeth Sbaen. Mae’r PP, felly, nodddi “Fundación para la Defensa de la Nación Española', corff sydd yn mynnu bod angen ‘dangos yr obsesiwn gwrth-Sbaeneg sydd yn cael ei hyrwyddo gan fudiadau sy’n galw am annibyniaeth, ac sy’n bychanu Sbaen gan wadu mai cenedl yw hi.’
Nod y PP, mae’n amlwg, yw dilyn siampl Ffrainc gan bwysleisio pwysigrwydd ‘iaith y genedl’ a’r peryglon o adael yr ieithoedd eraill ennill grym.
http://www.eurolang.net/index.php?option=com_content&task=view&id=3173&Itemid=1&lang=en
No comments:
Post a Comment