26/05/2009

Golwg Brydeinig

Tybed onid yw'n arwyddocaol mai dewis rhwng newyddion Cymru. newyddion Prydain a newyddion rhyngwladol a geir ar wefan newydd Golwg360?

A chymryd Prydeindod fel gelyn mwyaf Cymreictod, mae gosod Cymru'n gyntaf a Phrydain yn ail yn rhoi Cymru yn dwt ei lle fel rhan o'r wladwriaeth Brydeinig. Mae'n rhan o draddodiad Fictorianaidd parchus sydd yn cyfuno 'Ar hyd y nos' a 'Rule Brittania'.

Efallai na ellir disgwyl dim arall gan wasanaeth sydd yn derbyn arian mawr gan y llywodraeth ac sydd, efallai, yn ceisio apelio at y Cymro Seisnigedig cyffredin, ond mae'n drueni nad yw Cymru'n gyntaf, Ewrop yn ail a gweddill y byd yn drydydd.

Gellid holi beth a ddigwyddodd i hen weledigaeth 'Armes Prydein' o undod y gwledydd Celtaidd? Diolch byth am wefan Y Faner Newydd:

http://www.fanernewydd.net/

No comments: