28/05/2009

Canu ar draws ffiniau

Cystadleuaeth ganu yn yr ieithoedd Celtaidd, a hefyd yn Saesneg Wlster a Saesneg yr Alban, yw Nòs Ùr (sef ‘dull newydd’ yng Ngaeleg yr Alban) ac mae’n rhan o gystadleuaeth ban-Ewropeaidd i’r ieithoedd lleiafrifedig a gaiff ei chynnal ym mis Hydref, 2009, yn Leeuwarden, Ffrisia, yr Iseldiroedd.

Cynhelir Nos Ùr ar 20 Mehefin 2009 yn Inbhir Nis (Inverness), a chaiff dwy act eu dewis (un drwy reithgor a’r llall drwy bleidlais gyhoeddus) i gynrychioli’r gwledydd Celtaidd yng nghystadleuaeth y ‘
Liet’ Rhyngwladol yn Ffrisia.

Cynrychiolir Llydaw eleni gan y rapiwr Iwan B. Llynedd, yr Annioddefol o Flaenau Ffestiniog a aeth â hi yn y gystadleuaeth yn yr Alban, gan guro deuddeg o fandiau Celtaidd eraill.

http://www.nos-ur.eu/

http://bretondecoeur.over-blog.com/article-19956065.html

http://www.bbc.co.uk/cymru/c2/safle/newyddion/cynnwys/annioddefol_nosur.shtml

No comments: