Tan 1 Mehefin, yn Amgueddfa'r Celfau Cain, Kemper (Quimper), ceir gweld arddangosfa ar thema 'Gweledigaeth wedi'r Bregeth', sef teitl y llun hwn gan Gauguin.
Mae llun Gauguin ar fenthyg gan Oriel Gelf Genedlaethol yr Alban, a dyma'r tro cyntaf iddo gael ei ddangos yn Llydaw er pan gafodd ei baentio yn 1888.
Ystyrir y llun hwn yn sylfaen i Synthetiaeth, sef arddull lle y defnyddir lleiniau gwastad o liw, wedi eu hamgylchynu gan linellau duon, wrth ymdrin yn symbolaidd â syniadau haniaethol.
Mae'r arddangosfa'n dilyn y modd y bu arlunwyr yn edrych ar thema o'r Beibl, sef Jacob yn ymgodymu â'r angel (Genesis 32.23–31), a cheir golwg ar dduwioldeb yr unigolyn ac ar dduwioldeb torfol y gymdeithas yn Llydaw. Rhoddir sylw i ddylanwad yr arlunydd Émile Bernard ar Gauguin. Ymunodd ef â Gauguin ym Mhont-Aven gan fynd âi lun 'Gwragedd ar Weirglodd', sy'n darlunio Llydawesau mewn gwylmabsant (pardon), gydag ef, o Kemper.
Trefnir ymweliad drwy gyfrwng y Llydaweg ar ddydd Sadwrn, 30 Mai, am 10.30 a.m.
http://bremaik.free.fr/
http://www.musee-beauxarts.quimper.fr/
No comments:
Post a Comment