10/05/2009

Arlywydd newydd Euskadi’n dibynnu ar bleidiau’r asgell dde bellaf

Etholwyd Patxi Lopez yn Arlywydd Euskadi (talaith o fewn Gwlad y Basg, ond a elwir 'Gwlad y Basg' er drysu pawb)), ond ’roedd angen pleidleisiau’r asgell dde (Plaid y Bobl) a rhai’r asgell dde bellaf (Yr Undeb er Cynnydd ac er Democratiaeth) iddo gael y mwyafrif angenrheidiol. Dyma’r tro cyntaf i Euskadi gael llywydd sydd yn dibynnu ar gefnogaeth cenedlaetholwyr Sbaenaidd.

Myn Lopez ei fod am i Euskadi ‘glosio at weddill Sbaen’. Y frwydr yn erbyn ETA ac amddiffyn y Cyfansoddiad, meddai, fydd ei flaenoriaethau. Nid oes amheuaeth na all fod cyfnod anodd o flaen ieithgarwyr a chenedlaetholwyr o Fasgiaid o dan y drefn newydd.


http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=15063

No comments: