14/05/2009

EGLWYS GADEIRIOL LANDREGER (Tréguier)

A Gŵyl Erwan, nawddsant Llydaw, ar 19 Mai, dyma grynhoi'r hyn sydd i'w weld yn yr eglwys gadeiriol sydd wedi ei chysegru i Erwan, yn Landreger (Tréguier). ’Roedd taflenni tywys mewn amryw ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, i'w cael yno am ddim ar un adeg, pan oedd Yann Talbot yn offeiriad yno, ond bellach ’rwyf yn ofni mai rhai'r ieithoedd mawr yn unig a geir.




MAE TAIR RHAN YN DYDDIO O WAHANOL GYFNODAU:
* gweddillion yr eglwys gadeiriol Romanésg: Tŵr Hasting
* y corff a'r cangell, sydd mewn arddull Gothig
* y clochdy, Capel y Dug, a'r clawstr, sydd yn yr arddull Gothig Ffaglog

TŴR HASTING (XIeg-XIIfed ganrif)
* meini o Caen, yn Normandi a ddefnyddiwyd i'w godi
* mae'r golofn ganolog gref yn cynnal dau fwa crwn uchel
* ceir addurniadau ar gapanau ac ar sylfeini'r colofnau: patrymau Celtaidd, strapwaith, blodau arddulliedig a sieffrynau plethedig


Y CORFF A'R CANGELL GOTHIG (XIVeg ganrif)
* fesul tipyn y cwblhawyd y gwaith adeiladu, gan i 'r Rhyfel Can Mlynedd, a Rhyfel Olyniaeth Llydaw, dorri ar ei draws amryw droeon
* ceir amryw fathau o golofnau; mae rhai'n grwn, eraill yn wythochrog, a rhai'r cangell yn sypynnau o golofnau bychain
* mae hyd y cilfachau'n amrywio o 3metr i 5.7metr
* nid yw trifforiwm y corff (yr oriel uwchben y bwâu) mor addurniedig â thrifforiwm y cangell. Mae un y cangell yn cynnal balwstrad patrwm pedeirdalen (quatrefoil)
* o dan drifforiwm y corff ceir ffris wedi ei gerflunio
* ar ben y colofnau ceir caryatidau hynod, e.e. dyn unllygeidiog â dwy geg




CAPEL Y DUG A BEDDROD ERWAN SANT
* Gan y Dug Yann V y codwyd y capel hwn, fel y gallai gael ei gladdu wrth Erwan Sant. Dynodir man ei gladdu gan lechfaen
* mae tri cherflun hynafol o Erwan (XVIeg-XVIIeg ganrif)
* saif beddrod Erwan lle y'i claddwyd ym 1303, ond codwyd y gofeb bresennol ym 1890, gan i'r beddrod a godwyd gan Yann V gael ei chwalu adeg y Chwyldro Ffrengig
* ar y gofeb ceir cerfluniau o'r saint ac o deulu Erwan

YSTLYSAU'R EGLWYS
* Ystlys y Gogledd: beddrod Yann Lantilieg (Jean de Lantillac)
* cerflun hardd o Grist yn ddirmygedig (XVIeg ganrif), a cherflun o Dobeia wedi ei arwain gan yr Angel
* Ystlys y De: tri beddrod. Mae'r marchogion yn gwisgo peisiau dur o'r XVfed ganrif


Y CYNTEDDAU
* Cyntedd y Gorllewin, a elwid yn 'Borth y Gwahangleifion', â bwa crwn. Mae colofn fechan hardd yn cynnal dau fwa trillabedog, sy'n cynnal y rhosyn yng nghanol y nenfwd
* Cyntedd y Bobl: bwa Gothig, a rhosyn nenfwd wedi ei wneud o bedwar rhosyn
* Cyntedd y Clychau: bwa Gothig syml yn estyn allan o flaen y fynedfa. Sylwer ar y deugain cerflun ac ar y les feini
* mae'r pulpud yn dyddio o ddiwedd yr XVIIeg ganrif; ar ei frig darlunnir angel yn dal clorian ar Ddydd y Farn
* dinistriwyd y ffenestri lliw gwreiddiol adeg y Chwyldro. I'r Bonheddwr de Saint-Marie (Kintin) y mae'r diolch am y rhai presennol. Darlunia rhai Ystlys y Gogledd olygfeydd o'r Hen Destament, rhai ystlys y De olygfeydd o'r Testament Newydd, a rhai'r Talcen Crwn olygfeydd o fywydau'r saint


ALE GROES Y DE
* basgerflun o weledigaeth a gafodd Sant Ioan, yn ôl Llyfr y Datguddiad (XVIIeg ganrif) * cerflun yn dangos Erwan Sant rhwng y cyfoethog a'r tlawd
* ffenestr liw fawr â lluniau damhegol, e.e. fel y bydd yr winwydden yn dwyn ffrwyth, felly y bydd yr eglwys yn rhoi inni ei saint


YNG NGHAPELI'R TALCEN CRWN
* paentiad o 'Addoliad y Bugeiliaid', copi o waith gan Reubens
* pieta o ddechrau'r XVIeg ganrif, lle y darlunnir y Forwyn Fair yn codi ei fêl yn raslon
* Crist ar y groes, sy'n dod o eglwys Tremael (XIIIeg ganrif)
* yng Nghapel y Forwyn Fair, ceir cerflun goreuredig o'r Wyryf mewn cilfach Gothig (XVIIeg ganrif), a gorfwrdd â thri phanel sydd yn darlunio’r Sibyl yn darogan dyfodiad Iesu Grist

No comments: