14/05/2009

Dynwared yw'r weniaith fwyaf didwyll


Newydd gael neges gan Blaid Llydaw, hynny yw Strollad Breizh, a sylwi mor debyg yw blodyn eu logo hwy i'r blodyn a ddisodlodd driban Plaid Cymru.
Mae logo Skol an Emsav (ystyr 'emsav' yma yw rhywbeth fel 'pethau Llydaw' neu 'mudiad Llydaw'), sy'n fudiad iaith, yn mynd yn ôl rai blynyddoedd a chofiaf eraill yn sylwi mor debyg ydyw i Dafod y Ddraig.

2 comments:

Anonymous said...

sawl plaid genedlaetholaidd sydd yn Llydaw? Dwi'n colli cownt - UDB, Parti Breton, Stollard ert??

teod-karv said...

UDB -Undeb Democrataidd Llydaw yw'r blaid Lydewig amlycaf, rwy'n credu, ac mae ganddi gynrychiolaeth yn y llywodraeth ranbarthol - y tro cyntaf i ddim byd tebyg ddigwydd. Mae Plaid Llydaw'n fwy o barti cenedlaethol, hyd y gwelaf, ond er mor bell i ffwrdd yw'r Ail Ryfel Byd, i lawer o hyd, mae'r gair 'cenedlaetholwr' yn awgrymu 'rhywun sy'n cydymdeimlo a^ Natsiaeth', felly bydd cenedlaetholwyr fel arfer yn dweud mai Llydawyr ydynt yn hytrach na'u bod yn gendlaetholwyr... Mae'n siw^r bod pleidiau bychain eraill, ond ni wn beth ydyn nhw...