20/05/2009

Protestio er mwyn goroesi yn yr Amason

Mae llywodraeth Periw wedi datgan bod ‘stad o argyfwng’ mewn amryw ardaloedd yn yr Amason yn dilyn gwrthdystiadau gan filoedd o’r brodorion. Mae’r llwythau brodorol yn gwneud eu gorau i dynnu sylw at bolisïau a deddfau sy’n sathru ar eu hawliau ac sy’n ei gwneud yn haws i gwmnïoedd ddwyn eu tir oddi arnynt.

Dechreuodd y protestio ar 9 Ebrill. Buwyd yn blocio afonydd ac yn cau ffyrdd, a llwyddwyd hyd yn oed i gau un awyrborth. Yn ôl y sôn, cafodd o leiaf ddeg o’r brodorion anafiadau difrifol o ganlyniad i’w gweithredu.

Mae llywydd AIDESEP, y sefydliad sy’n gweithio er lles y brodorion, yn ystyried bod y penderfyniad i ddatgan ‘stad o argyfwng’ bron yn gyfystyr â datgan rhyfel. Golyga nad oes gan y bobl yr hawl gyfansoddiadol i gael eu diogelu, na allant ddisgwyl i’w cartrefi gael eu cadw’n ddiogel ac nad oes ganddynt yr hawl i gydgyfarfod nac i deithio.

Bu’r tyndra ar ei waethaf ar hyd afon Napo, un o isafonydd afon Amason yng Ngogledd Periw. Pan gaeodd y brodorion yr afon drwy ddefnyddio rhaff neilon, dyna Perenco, cwmni olew Eingl-Ffrengig, yn torri drwodd â gynfad gan beri i ganŵiau rhai o’r protestwyr suddo.

Mae Perenco’n gweithio mewn rhan o’r Amason lle y mae o leiaf ddau lwyth na chawsant gyswllt â phobl o’r tu allan, ac mae mudiad Survival International yn galw arnynt i dynnu’n ôl oddi wrth eu prosiect yno.

Os hoffech helpu’r brodorion yn eu hymdrech yn erbyn y grymoedd masnachol aruthrol sy’n bygwth eu ffordd o fyw a’u dyfodol, cewch enghraifft o’r math o lythyr sydd angen ei anfon i lywodraeth Periw drwy ddilyn y ddolen hon:

http://www.survival-international.org/news/4529

Trist nodi mai’r ermin Llydewig yw logo Perenco, gan mai gan Hubert Perrodo (1944-2006), brodor o An Arvor Baden, yn y Mor-Bihan, y sefydlwyd y cw
mni hwnnw.

No comments: