20/05/2009

Nabar – y tedi-bêr sy’n siarad Llydaweg





Cylchgrawn Llydaweg i blant bach yw Rouzig, ac ynddo ceir storïau, gêmau, erthyglau, a chartŵnau. Mae hefyd eirfa Lydaweg-Ffrangeg ym mhob rhifyn. Yn awr mae’r cylchgrawn yn cynnig tedi-bêr go fawr, o’r enw Nabar, sy’n siarad Llydaweg... wel, tedi-bêr blewog a meddal ond â chwaraewr mp3 yn ei fol.

Dywedir y bydd Llydaweg Nabar, ei ynganiad clir a’i lais hyfryd, yn ddigon i wneud i blant syrthio mewn cariad ag ef, a bydd modd ei glywed naill ai’n siarad tafodiaith Gwened (y De-Ddwyrain) neu Lydaweg nodweddiadol o’r tafodieithoedd eraill (Kernev, Leon a Treger).

Yn ogystal â helpu plant â’u Llydaweg, mae’r arth hefyd yn debyg o fod o gymorth i rieni sydd am ddysgu ynganu’r iaith yn well.

Mae sŵn bach yn dangos pryd y mae angen troi’r tudalen a bydd arwydd yn y cylchgrawn yn dangos ble mae’r testunau a recordiwyd.

Mae modd gwneud i Nabar weithio fel athro iaith yn yr ystafell wely mewn ffyrdd eraill hefyd, oherwydd gall ganu, adrodd rhigymau, rhoi ymarferion iaith a hyd yn oed gweddïo. Y cwbl y bydd angen ei wneud yw llwytho’r recordiadau o’r We. Caiff ei reoli drwy bwyso ar ei bawennau.

Am fanylion pellach, i gael rhestr o’r recordiadau sydd ar gael ac i gael gweld yr arth fach Lydaweg, edrycher ar y wefan hon :

http://keit-vimp-bev.info/index.php?id=16

No comments: