19/05/2009

Llydaweg ar y rheilffyrdd

Fel rhan o’u hymgyrch i ddwyn pwysau ar yr SNCF (Rheilffyrdd Ffrainc) i gydnabod y Llydaweg a’i defnyddio, bydd y mudiad iaith Ai ’ta! (Hei ati!) yn cynnal ‘fest-noz’ (noson o ddawnsio Llydewig ac o ganu Llydaweg) yng ngorsaf An Alre (Auray) yn Ne Llydaw, ar ddydd Gwener, 29 Mai.

Pobl ifainc yw asgwrn cefn Ai’ ta!, a threfnwyd protestiadau hwyliog tebyg eisoes ganddynt mewn ambell fan yng Ngogledd Llydaw. ‘Mae angen inni ddangos i’n gwleidyddion, ac i benaethiaid yr SNCF, ein bod am i’n hiaith fyw,’ meddent. Mae'r mudiad yn hoffi gwrthdystio mewn ffordd sy'n creu difyrrwch, gan ei fod, yn y ffordd honno, yn ennill cydymdeimlad yn hytrach nag yn creu gelynion.

Bydd yr orsaf hefyd yn cael ei haddurno gan lynion hardd i ddangos mai ewyllys yn unig sydd ei eisiau i gael arwyddion dwyieithog.


Gwefan Ai ’ta! http://ai.ta.free.fr/

No comments: