llun: Leitza, un o gadarnleoedd y Fasgeg. Iaith swyddogol yw'r Fasgeg yn Nafarroa, ond yn y rhannau lle y mae'n gryf yn unig.
Dangoswyd bod yr arian a roddir i gefnogi’r Fasgeg gan lywodraeth Nafarroa (Navarra), y rhan o Wlad y Basg sydd o fewn gwladwriaeth Sbaen ond sy'n dalaith ar wahân i Euskadi, wedi lleihau’n gyson dros y deng mlynedd diwethaf. Mae’r gefnogaeth deirgwaith yn llai nag yr oedd wyth mlynedd yn ôl, ac yn llai nag 0.1% o holl wariant y llywodraeth. Bu’r gostyngiad mwyaf trawiadol yn 2001 pan fu i Pedro Pegenaute bron haneru’r gyllideb, o 4.14 miliwn € i 2.19 miliwn €. Gostyngodd canran gwariant llywodraeth Nafarroa ar y Fasgeg o 0.19% yn 2000 i 0.09% yn 2001. Tra oedd canran y gwariant ar yr iaith ar un adeg yn 0.28%, eleni, o dan lywodraeth yr UPN, nid yw ond yn 0.07%, sef 3,145,640€
Wrth gwrs, mae modd defnyddio’r ‘argyfwng ariannol’ i gyfiawnhau’r lleihad diweddaraf yn Nafarroa. Ac erbyn meddwl, ble bydd y fwyell yn disgyn yng Nghymru ymhen blwyddyn neu ddwy? Mae’r Blaid Lafur yn sicr o gael cic go dda pan gaiff yr etholwyr gyfle i roi un iddi, ac am ei bod hi a Phlaid Cymru bellach yn yr un gwely ac yn debyg o rannu, i ryw raddau, yr un dynged, tybed oni allai fod cyfle euraid ar y gorwel i elynion yr iaith ? Mae'n amlwg mai sefyllfa wleidyddol wahanol, ac unigryw, sydd yng Ngwlad y Basg, a theimladau cryf iawn ar y ddwy ochr, ond diau y bydd angen tocio yn rhywle yng Nghymru...
http://www.berria.info/paperekoa/harian/2009-05-09/002/003/Orain_20_urte_baino_baliabide_gutxiago_euskararentzat._Nafarroako_Gobernuak_1989ko_maiatzaren_11n_sortu_zuen_organikoki_Hizkuntza_Politikarako_Zuzendaritza_Nagusia_Azken_hamar_urteotan_etengabeko_beherakada_izan_du_sailaren_aurrekontuak.htm
No comments:
Post a Comment