10/05/2009

Gwennyn yn gwneud mwy na suoganu

Ddydd Sadwrn, 9 Mai, lansiwyd albwm newydd o safon gan y gantores Gwennyn.

Mammenn’ (sydd, fel arfer, yn golygu ‘ffynhonnell’ ond a drosir yma gan ‘Matrice’ yn Ffrangeg, sef ‘croth’) yw teitl yr albwm newydd.

Dyma ganu bywiog a swynol gan Lydawes Lydaweg ifanc ddawnus. Gyda’r gitarydd Patrice Marzin, bu wrthi am ddwy flynedd yn gweithio ar y caneuon newydd.

Mae modd clywed Gwennyn ac archebu’r albwm ar

Mae rhagor o’i chanu ar


a’i gwefan yw


A pha mor hir y bydd yn rhaid aros cyn y caiff ei chlywed ar S4C? Am wn i, mae’r cyfryngau Cymraeg yn ddigon di-hid am ganu yn yr ieithoedd Celtaidd eraill. Dilyn chwaeth Seisnigedig yn hytrach nag arwain biau hi, yn aml. Bu siarad di-ben-draw am yr holl ganu Saesneg sydd ar Radio Cymru a rhaid bod y Cymreigwyr selocaf wedi alaru ar ambell gân bop Gymraeg sy'n cael ei chwarae ar y radio bob wythnos ers ugain mlynedd... Ond beth am ieithoedd eraill? Cafodd Gwennyn ei chlywed yng Nghymru pan ganodd mewn cystadleuaeth yn yr Alban yn 2008, ond ai dyna'r unig dro?

Cofiaf fod Gwennyn wedi anfon e-bost ataf ryw ddwy neu dair blynedd yn ôl yn dweud yr hoffai ganu yng Nghymru. Gwaetha’r modd, gan fy mod yn brysur iawn ac am nad oes gen i gysylltiadau â byd adloniant, nid oeddwn wedi gallu rhoi llawer o help iddi. Mae’n wir bryd i rywun ei denu i ganu yma... Ni a fydd ar ein colled os na wnawn.

No comments: