07/05/2009

Dewi i Gymru, Padrig i Iwerddon, Andreas i’r Alban, Piran i Gernyw... ac Erwan i Lydaw

Oddi ar 1997, pan sefydlwyd cymdeithas seciwlar i ddathlu Dydd Gŵyl Erwan (‘Yves’ yw ei enw yn Ffrangeg), nawddsant Llydaw, mae’r ŵyl honno’n mynd o nerth i nerth, yn enwedig am fod Llywodraeth Rhanbarthol Llydaw’n gweld bod modd manteisio ar y diwrnod i dynnu sylw at ddiwylliant a cherddoriaeth Llydaw.

19 Mai yw dyddiad yr ŵyl, a chrewyd gwefan yn unswydd er mwyn hysbysebu’r dathliad:

http://www.festyves-gouelerwan.com/index_bzh.html

Cafodd Erwan Helouri Gervarzhin, a anwyd yn 1253, ei ddyrchafu’n sant yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. ’Roedd wedi ei eni ym mhlas Kervarzhin, yn Ar Vinic’hi (Minihy-Tréguier), nid nepell o Landreger (Tréguier). Cafodd ei hyfforddi yn yr Ysgrythurau ac yn y gyfraith ym Mharis. Yn 29 oed, yn Roazhon (Rennes), daeth yn farnwr ar faterion cyfreithiol eglwysig a sifil. Dychwelodd wedyn i’w fro enedigol lle yr oedd ganddo gyfrifoldebau tebyg. Bu’n offeiriad yn Nhredraezh yn gyntaf, ac wedyn yn Louaneg, lle yr arhosodd hyd ddiwedd ei fywyd.

Câi Erwan ei ystyried yn ŵr doeth, dysgedig a defosiynol ac yn farnwr cyfiawn. Yn ddisgybl i Sant Ffransis o Assissi, amddiffynnai’r tlodion, gwragedd gweddwon a phlant amddifaid, a bu’n byw ymhlith y rhai difreintiedig. Dywedir na fyddai ond yn bwyta bara rhyg, cawl bresych, ffa neu erfin (maip). Fel Dewi Ddyfrwr, dŵr pur yn unig a yfai.

Ys dywed un o emynau mwyaf adnabyddus y Llydaweg ‘Na n’eus ket e Breizh, na n’eus ket unan, na n’eus ket ur sant evel sant Erwan’ (Nid oes yn Llydaw yr un sant tebyg i Sant Erwan.)

http://catholique-saint-brieuc.cef.fr/Buhez-Sant-Erwan
llun: tŵr eglwys gadeiriol Landreger, Eglwys Sant Erwan.

1 comment:

Anonymous said...

datblygiad bositif arall o Lydaw ... er gwaetha llawer o newydd drwg, mae'n ymddangos i mi (fel rhywun o'r tu allan) fod llydaw yn llawer mwy hyderus yn ei hun nawr nac oedd hi deng, ugain mlynedd yn ol.

Yn sicr, sylwes i wahaniaeth rhwng y tro diwethaf i mi fod yno yn 2001 a fy nhaith flaenol yn 1994.